Yma yn yr Ardd rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i geisio cael lluniau o ddraenogod ar y safle a gweld sut orau y gallwn ni helpu’r unigolion bach miniog hyn, gan fod eu niferoedd wedi bod yn lleihau. P’un a ydych chi’n awyddus i warchod y rhywogaeth frodorol eiconaidd hon, neu ddim ond i elwa o’u cymorth i reoli plâu yn naturiol, gallwn i gyd helpu mewn sawl ffordd, yma yn ein gerddi ein hunain.
Darparu Mynediad
Mae poblogaethau o ddraenogod mewn mannau trefol yn dangos arwyddion bod eu niferoedd yn adfer, gan olygu y gallai eich gardd chi fod yn fan cychwyn i gynyddu eu niferoedd ar lefel genedlaethol! Ond fe fydd angen iddynt fod gam ar y blaen, ac mae hynny’n hawdd ei wneud drwy osod o leiaf un twll 13 x 13cm (5 x 5”) yng ngwaelod wal gref neu ffens (fel rheol, po fwyaf yw’r ardd, mwya’n y byd o fannau mynediad sydd angen). Bydd hyn yn caniatau i’r draenogod fynd a dod yn rhydd heb i’ch anifeiliaid anwes allu gwneud yr un peth. Bydd draenogod yn crwydro rhwng 1 a 2km y nos yn ystod eu tymor prysur, felly mae’n werth ystyried cydweithio â chymdogion i ddarparu cadwyn hir o erddi i’r draenogod eu harchwilio. Fel arall, gallwch droi i hedgehogstreet.org i gofrestru’ch gardd yn rhan o’r ‘briffordd draenogod’ a gweld i ble y gall draenogod fod yn cyrraedd yn eich ardal chi.
Darparu Bwyd a Diod
Un o’r ffyrdd gorau o ddarparu bwyd i ddraenogod yw drwy blannu rhywogaethau brodorol fel gwyddfid , rhosyn gwyllt, draenen wen a draenen ddu, sydd i gyd yn darparu bwyd ar gyfer amrywiaeth eang o lindys. Bydd y mwyafrif o lindys gwyfynnod, ac yna’n dod yn fwyd i ddraenogod wrth fynd heibio. Mae hyn hefyd yn fuddiol i ychwanegu amrywiaeth o blanhigion yn eich gardd. Drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig yn yr hydref pan fydd draenogod yn paratoi i gysgu dros y gaeaf, ac yn arbennig ar ôl y cyfnod gaeafgysgu ganol mis Mawrth, mae’n ddefnyddiol gadael bwyd ychwanegol allan. Bwyd anifeiliaid anwes heb bysgod ynddo neu fwyd penodol i ddraenogod i’w brynu mewn siop i anifeiliaid anwes sydd orau. Dylech osgoi bara neu laeth oherwydd gallant olygu colli dŵr a lladd draenogod. Gallwch greu man bwydo i ddraenogod neu osod bwyd dan rywbeth isel, neu ei orchuddio â blwch plastig gyda thwll bach i fynd i mewn er mwyn osgoi denu cathod. Mae rhoi dŵr allan hefyd yn fuddiol, yn enwedig mewn tywydd cynnes, a dŵr yn unig y dylech ei ddarparu. Dylai’r llestri bwyd a dŵr gael eu glanhau’n rheolaidd, a dylid rhoi dŵr ffres bob nos.
Darparu Lloches
Mae twmpath o ddail, brigau neu ddarnau o bren mewn rhan dawel o’r ardd yn gynefin gwych i ddraenogod. Bydd hynny’n rhoi man cynnes, sych a diogel iddynt nythu a chysgu dros y gaeaf, yn ogystal â denu eu hysglyfaeth, fel gwlithod, chwilod a chreaduriaid cantroed. Mae creu twmpathau o bren yn hawdd, ac maen nhw’n denu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Bydd twmpath o gompost hefyd yn gwneud yr un peth, ond bydd angen bod yn fwy gofalus wrth droi’r twmpath oherwydd gall fforch gardd yn hawdd niweidio neu ladd draenog.
Os ydych yn ystyried prosiect, gallech hefyd adeiladu tŷ i ddraenogod (mae cyfarwyddiadau ac arweiniad i’w cael yma). Gallant ddefnyddio’r adeiladau hyn i gysgu dros y gaeaf a magu eu rhai bach. Mae’n well gorchuddio’r lloches â siten o blastig a haenau o ddail i fod yn gynnes, i guddio ac i atal glaw. Dylai twnnel 13 x 13cm a 40cm o hyd atal gelynion rhag mynd i mewn, ac os gwelwch hyn bydd ychwanegu wal y tu mewn gyda bwlch ar yr ochr bellaf oddi wrth y fynedfa yn rhwystro anifeiliaid mwy o faint rhag mynd i mewn.
Mynd yn Wyllt!
Mae hyn yn hawdd – gwneud dim! Gadewch i ran o’ch gardd dyfu’n wyllt, efallai mewn cornel sydd eisoes yn anodd i’r peiriant torri gwair ei gyrraedd, a chewch weld y draenogod yn defnyddio’r rhan hon i chwilio am fwyd a lloches. Yn y gaeaf gallant hyd yn oed nythu yn eich gardd. Gallwch ddefnyddio canghennau i roi ffurf i’r ardal hon, ond bydd denu mwy o bryfed yn unig yn fuddiol iawn i famaliaid sy’n bwyta pryfed.

Plannu Clawdd
Os ydych yn barod am waith garddio mwy grymus, bydd plannu clawdd yn lle ffens yn rhoi mynediad haws i fannau gerllaw, yn ogystal â chreu twmpathau o ddail lle gall draenogod chwilio am fwyd, treulio’r gaeaf a magu eu rhai bach. Planhigion brodorol fel coed cyll a’r ddraenen wen sy’n cael eu hargymell fwyaf, gan eu bod yn denu gwyfynnod sy’n dodwy wyau gan ddarparu eu hoff fwyd: gwlithod!
Peryglon i’w Hosgoi
- Mae draenogod yn rhannu gerddi gyda’r anifeiliaid anwes sy’n byw ynddyn nhw. Yn y nos, os bydd eich ci’n cael mynd allan, gallwch rybuddio unrhyw ddraenogod fod perygl drwy gynnau golau allanol funud cyn gadael y ci allan.
- Er bod draenogod yn gallu nofio, mae llynnoedd gydag ymylon serth yn angheuol iddyn nhw. Os na allant ddringo allan o’r dŵr, byddant yn blino ac yn boddi. Gellir osgoi hyn yn hawdd drwy ddefnyddio mannau iddyn nhw fynd allan. Gall hynny fod ar ffurf ymylon llethrog yn y llyn, rhwyd gref o raff dros yr ymyl fel ysgol, darn o bren yn arwain allan o’r llyn, neu dwmpath o gerrig serth yn ymyl y dŵr. Mae hyn yn wir hefyd yn gymwys i nodweddion eraill sydd ag ymylon serth, fel draeniau agored.
- Gall cael eu dal mewn gwastraff plastig neu netin garddio fod yn beryglus iawn i ddraenogod. Os yw’n bosibl, defnyddiwch rywbeth mwy cadarn, neu dylid defnyddio cortyn mwy trwchus a’i gadw’n dynn bob amser. Dylai unrhyw netin, gwifrau neu gortyn o leiaf droedfedd oddi ar y ddaear fod yn iawn, ond mae’n well bod yn barod.
- Mae ysbytai a chanolfannau draenogod yn llawn draenogod ag anafiaidau difrifol wedi eu hachosi gan strimwyr. Y rheswm yw na all draenog redeg i ffwrdd o sŵn peiriant torri gwair neu strimiwr (yn enwedig os yw’n cysgu). Cofiwch wneud yn siwr i weld a oes yna ddraenogod cyn dechrau strimio. Os gwelwch ddraenog ar ei ben ei hun, gwisgwch fenig i’w symud yn ofalus i le diogel ac ar wahân. Yn ddelfrydol dylid gadael teuluoedd o ddraenogod heb darfu arnynt, ond gallwch gysylltu â British Hedgehog Preservation Society i gael cyngor.
- Bydd draenogod yn aml yn llyfu arogleuon a defnyddiau newydd, felly mae’n bwysig defnyddio paent i warchod dodrefn gardd sy’n garedig i’r amgylchedd, a dylech osgoi nifer o gemegolion gardd eraill pan fydd yn bosibl. Bydd unrhyw gemegolion sy’n effeithio ar greaduriaid di-sgwrn-cefn yn lleihau’r bwyd sydd ar gael i ddraenogod, gan gynnwys triniaethau’r lawnt, plaladdwyr a phryfladdwyr. Gall pelenni lladd gwlithod fod yn angheuol i ddraenogod oherwydd bod metaldehyde ynddynt, ac mae hyd yn oed pelenni organaidd sy’n garedig i fywyd gwyllt yn tynnu gwlithod a malwod allan o’r gadwyn fwyd gan leihau’r ffynonellau bwyd i ddraenogod. Mae yna rai pethau y gallwch eu gwneud er mwyn diogelwch, fel sicrhau na all draenogod gyrraedd y pelenni drwy eu rhoi mewn tiwbyn cul. Er mai rhan fechan o ddeiet draenogod yw gwlithod a malwod, drwy gynyddu nifer y draenogod yn eich ardal byddant yn helpu rheoli nifer y gwlithod drwy eu bwyta.
- Gall draenog gamgymryd coelcerthi o ganghennau, brigau a gwastraff gardd arall am le i dreulio’r gaeaf neu i nythu. I osgoi trychineb, mae’n well naill ai adeiladu eich coelcerth a’i llosgi ar yr un diwrnod, gan chwilio drwy’r twmpath yn ofalus â rhaca neu raw i annog bywyd gwyllt i ddianc, neu ddim ond symud y goelcerth i le gwahanol ychydig cyn ei llosgi.
Mae ffynonellau ar gyfer rhagor o wybodaeth i’w cael yma:
- Hedgehog-Street-Top-Tips-2022.pdf (hedgehogstreet.org)
- Hedgehog Street | British Hedgehog Preservation Society
- How to help hedgehogs in your garden | Sussex Wildlife Trust
- 10 Ways to Help Hedgehogs | BBC Gardeners World Magazine