
Ailgylchu, ail-ddiben, uwchgylchu …. Mae’r termau hyn wedi dod yn gyaied iswn inni i ghyd dro y blynyddoedd diwethaf, wrth inni deimlo’r dylanwad a’r anogaeth i ofalu am yr amgylchedd a hefyd i fod yn ddarbodus.
Ond i nifer ohonom ni ‘bobl hŷn’, mae gofalu am ddefnyddiau fel hyn a’u hailddefnyddio bron yn ail natur. Rydyn ni’n cofio ein mamau’n newid dillad plant hŷn i fod yn addas i’r plentyn nesaf, trwsio toriadau mewn dillad neu gywiro tyllau mewn hosanau!
Mae’r atgofion hynny, ynghyd ag ysbrydoliaeth rhaglen boblogaidd y BBC ar wnio (lle caiff hen ddillad eu ‘trawsnewid’ yn greadigaethau newydd) wedi dylanwadu ar grŵp o wirfoddolwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i fod yn greadigol iawn wrth ailddefnyddio hen ddefnyddiau, gan gynnwys dillad gwely, llenni neu ddillad.
Felly, yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y Grŵp Gwisgoedd Treftadaeth yn arddangos amrywiaeth o wisgoedd ac ychwanegiadau yn Oriel yr Ardd.
Mae ein detholiad o wisgoedd yn cynnwys ffermwr o Oes Victoria mewn crys lliwgar wedi ei wneud o ddillad gwely calico; merch o’r 1950au mewn parti mewn gwisg binc wedi ei chreu o hen sgert hir, gwraig o gyfnod y Rhaglywiaeth mewn gwisg a oedd ar un adeg yn gwilt gwely dwbwl, a gŵr bonheddig golygus o lys Louis XIV a’i wisg wedi ei gwneud o lenni crand!
Yn yr wythnosau nesaf bydd y gwisgoedd hefyd yn cynnwys Flapper o’r 1920au, hipi o’r 1970au, gwisg gan ddylunydd o’r 1960 heb sôn am arddangosfa gyda thema’r Nadolig.
Mae aelodau’r grŵp yn hapus iawn i ystyried defnyddio pob math o ddefnyddiau ac eitemau – llenni, dillad gwely, hen ddillad at ddiben newydd, a hyd yn oed llieiniau bwrdd! Mae’r rhai sy’n gwnio wrth eu bodd yn wynebu’r her o greu gwisgoedd ac ychwanegiadau hardd gan roi bywyd newydd i ddefnyddiau ac eitemau segur, gan ddangos yn eglur y gall hen ddefnyddiau gael eu hailddefnyddio, boed i greu gwisgoedd, dillad neu eitemau dodrefnu. A hefyd mae’n arbed llawer o arian! Nid yw aelodau’r grŵp hyd yn oed yn ystyried taflu defnyddiau fel y rhain i’r safle tirlenwi!
Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r arddangosfa – ac yn gwerthfawrogi’r hyn y gallwn ei greu o ddefnyddiau segur!
Nifer bach o wirfoddolwyr sy’n hoffi gwnio a bod yn greadigol yw’r Grŵp Gwisgoedd Treftadaeth. Mae eu cefndir a’u profiad yn amrywiol, ac erbyn hyn maent wedi eu huno nid yn unig gan y sgiliau gwnio sy’n gyffredin iddynt, ond hefyd gan ddiddordeb yn y gorffennol a’r ffasiynau rhyfeddol mae pobl wedi eu gwisgo dros y canrifoedd.