28 Medi 2022

Dirgelwch yr Hakea!

Matthew Bryant

Weithiau yn ein casgliad bydd gennym blanhigyn nad ydyn ni’n hollol siŵr beth ydy e. Gall hyn fod am lawer rheswm, a’r un mwyaf cyffrous yw pan fyddwn yn cael hadau neu blanhigion wedi casglu o’r gwyllt ac angen eu henwi tra byddan nhw yn ein gofal ni. Gall y rhain fod yn rhywogaeth hollol newydd! Dyna ichi syniad cyffrous!

Dyna ddigwyddodd gydag un planhigyn penodol yn y Tŷ Gwydr Mawr. Cafodd ei brynu yn y lle cyntaf fel Hakea sp, aelod o’r teulu Proteaceae – perthynas i’r ‘king protea’ yn Ne Affrica. Cafodd ei enwi’n ddiweddarach ar gam fel Banksia cuneata, ac mae wedi byw heb wybod pwy ydy e. O’r diwedd rydyn ni’n gwybod nawr beth ydy e, a’r cyfan roedd ei angen oedd hedfan i ben draw’r byd – gan gyfiawnhau’r arian a gefais am fynd!

Tra oeddwn ar daith yng Ngardd Fotaneg Kings Parkings yn Perth, yn ffodus iawn ymunais â thaith maes i Barc Cenedlaethol John Forrest. Wrth gerdded o gwmpas yr anialdir gwelais rywbeth cyfarwydd , sef y planhigyn a oedd wedi ei gamenwi yn y Tŷ Gwydr Mawr, ond yn y gwyllt! Llwyddodd y garddwriaethwr deallus o Kings Park yn fuan iawn i’w enwi yn Hakea amplexicaulis a dyna ddiwedd y dirgelwch. Byddaf  yn rhoi lluniau o hyn i’n Swyddog Cofnodion Planhigion a’n Curadur, ac yna gallwn ddechrau’r broses ffurfiol o ddilysu ein planhigyn.