22 Medi 2022

Cwrdd â’n Noddwr, Brenin Siarl III

Mel Doel

Agorodd Ei Fawrhydi Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2000 a daeth yn Noddwr i ni.

Yn Dywysog Cymru, fe wnaeth parhau i ddangos cefnogaeth fawr i’r rôl bwysig y mae’n ei chyflawni mewn gwyddoniaeth, ymchwil a chadwraeth ac mae wedi ymweld sawl gwaith, yn fwyaf diweddar ym mis Gorffennaf eleni pan ddywedodd ei fod wrth ei fodd i ddychwelyd a chanmol y datblygiadau ers y tro diwethaf iddo ymweld.

Felly, bu’n anrhydedd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i dderbyn gwahoddiad i fynychu Gwasanaeth Gweddi a Myfyrdod am oes y Frenhines yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd.  Roeddwn wrth fy modd yn derbyn gwahoddiad gan Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Gary Davies, a’r Is-Gadeirydd, Julie James, i gynrychioli’r Ardd, gan eu bod eisoes wedi cytuno i arwain digwyddiad i ddiolch a chydnabod staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith called dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn ystod caledi’r Pandemig.

Roedd y gwasanaeth yn un hynod emosiynol ac yn adlewyrchiad teilwng ar fywyd Ei Mawrhydi.  Bu’r Eglwys Gadeiriol yn atseinio i sŵn cerddoriaeth a chanu hyfryd, a gwrandawodd y cynulliad yn astud ar anerchiad twymgalon gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John, a dalodd deyrnged i’r diweddar Frenhines.

Ymhlith y pwysigion a’r arweinwyr dinesig a’r rhyng-grefyddol o bob rhan o Gymru oedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y Llywydd Elin Jones, y Prif Weinidog Liz Truss ac Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland.

Nes ymlaen, cefais yr anrhydedd unwaith eto i fynychu derbyniad bach preifat ar gyfer y Brenin a’r Frenhines Gydweddog, a gynhaliwyd gan Mr Drakeford yn y neuadd wledda odidog yng Nghastell Caerdydd – ar gyfer elusennau lleol ac arweinwyr crefyddol.  Cefais fy nghyflwyno i’r Frenhines Gydweddog Camilla a’i Fawrhydi ac roeddwn yn falch i allu rhoi crynodeb o’r newyddion a’r gwaith diweddaraf Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bu miloedd o bobl ar strydoedd Caerdydd a thu mewn i gwrt y Castell i dalu teyrnged ac i gael cipolwg ar y Brenin newydd a’r Frenhines Gydweddog, a gafodd eu cyfarch gan salíwt gwn a channoedd o blant ysgol hapus brwd.  Roedd yn bleser mawr i mi fod yn rhan o achlysur mor deimladwy – un i gofio Brenhines a oedd mor annwyl gan ei gwlad, ond hefyd i dystio’r croeso cynnes a dderbyniwyd gan y Brenin a’r Frenhines Gydweddog yng Nghymru.

 

Melanie Doel UYB

Ymddiriedolwr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru