Ar hyn o bryd rwyf ar leoliad gwaith rhyfeddol ym mhen draw’r byd yng Ngardd Fotaneg Kings Park yn Perth. Rwyf wedi sylwi ar un gwahaniaeth mawr rhwng yr Ardd Fotaneg hon a nifer o rai eraill. Yn wahanol i’r rhan o fwyaf o Erddi Botaneg, mae Kings Park yn canolbwyntio’n unig ar warchod eu planhigion brodorol. Mae gan Orllewin Awstralia 13,000 o rywogaethau brodorol, nifer ohonynt yn endemig ac yn ystod ddigonol o blanhigion i ddewis ohonynt, o arddangos, ymgysylltu, cadwraeth ac addysg. Ar hyn o bryd mae Kings Park yn arddangos 3000 o rywogaethau sydd i gyd o Orllewin Awstralia.
O’i chymharu, dim ond 1143 o rywogaethau brodorol sydd gan Gymru. Er nad yw’r rhain yn llai pwysig, ar lefel bersonol dydyn nhw ddim mor gyffrous. Debyg iawn mai dyna pam rwy’n gweld fy ngyrfa yn y dyfodol yn gweithio yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Mae Kings Park yn arddangos eu planhigion brodorol yn ogystal â gwarchod eu gwylltir brodorol sy’n debyg iawn i’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol ni yn Waun Las. Maen nhw’n gwneud hyn drwy greu parthau gwahanu o amgylch yr Ardd Fotaneg a gosod planhigion brodorol o ardal Perth ynddynt. Mae hyn yn helpu atal mathau nad ydyn nhw’n rhai brodorol rhag achosi problem yn y gwylltir.
Yn yr Ardd Fotaneg mae ganddyn nhw hefyd adrannau ar wahân ar gyfer gwahanol ranbarthau Gorllewin Awstralia. Caiff y cynlluniau plannu eu dylunio i adlewyrchu systemau gwyllt Gorllewin Awstralia mor agos â phosibl. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n meddwl ei wneud yn y dyfodol agos yn adran Gorllewin Awstralia yn y Tŷ Gwydr Mawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.