Rydym yn datblygu casgliad o redyn a gofynnwyd i Gymdeithas Rhedynegol Prydain ddod i roi cyngor i ni.
Mae gan y Rhodfa fonynfa ger y Porthdy. Mae yna hefyd bocedi o redyn wedi’u lleoli o dan ddau sbesimen o Fagus sylvatica f. purpurea ar y Rhodfa. Mae un o’r rhain wedi’i leoli tua hanner ffordd i fyny’r Rhodfa ac ar hyn o bryd mae wedi’i danblannu â detholiad da o rywogaethau cynhenid y DU. Mae’r llall yn byw yn yr Ardd Siapaneaidd ac yn ffurfio cefndir i’r gwely a blannwyd yn ddiweddar fel rhan o ddatblygiad yr Ardd Siapaneaidd.
Mae’r rhedyn sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn ymddangos yn hapus, felly roeddem yn meddwl y byddem yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu’r casgliad rhedyn yn yr ardaloedd hyn.
Aethom ati i gysylltu â Chymdeithas Rhedynegol Prydain (BPS) i weld a hoffai fod yn rhan o’r datblygiadau. Daeth y Gymdeithas draw i ymweld â ni, a chawsom olwg ar y tair ardal bosibl ac yna drafodaeth am y prosiect.
Diolch i aelodau grŵp lleol Cymdeithas Rhedynegol Prydain am eu haelioni o ran amser a gwybodaeth, sydd wedi bod heb eu hail.
O’r trafodaethau, daeth i’r amlwg mai’r bonynfa cyfredol fyddai’r lleoliad gorau i ddechrau datblygu rhedynfa cynhenid i’r DU. Mae hyn oherwydd y byddai microhinsoddau’r ddau leoliad arall yn gofyn am fwy o newid er mwyn lliniaru’r amodau tyfu i’w gwneud yn addas i fflora rhedyn mwy bioamrywiol.
Aethom ati i fraslunio rhai syniadau ar gyfer dyluniadau posibl, rhestr gaffael bosibl ar gyfer y rhedyn, a chytunwyd i drefnu rhagor o ymweliadau safle ar gyfer grŵp lleol Cymdeithas Rhedynegol Prydain, yn gyntaf i helpu i adnabod y rhedyn ar yr ystâd ehangach, a hefyd i rannu eu gwybodaeth yn fwy cyffredinol.
Ac felly ar 23 Mehefin 2022 bu Cymdeithas Rhedynegol Prydain mor garedig ag ymweld â’r Ardd Fotaneg.
Yn y bore, gan ddefnyddio ffrondau a gasglwyd y diwrnod cynt, rhoddodd Sue Dockerill arddangosiad hynod o addysgiadol, a fynegwyd yn wych, o nodweddion adnabod y rhedyn cynhenid cyffredin y gallem ddisgwyl eu gweld yn yr Ardd Fotaneg, ynghyd ag eraill a allai fod yn ddefnyddiol yn y rhedynfa cynhenid arfaethedig. Diolch i Sue am ei hamser o ran yr ymdrechion hyn.
Yn y prynhawn, aethom allan i’r dirwedd gydag aelodau Cymdeithas Rhedynegol Prydain i adnabod y rhedyn a oedd yn bresennol ar yr ystad.
Aeth ein llwybr â ni i mewn i’r dirwedd adferedig ac i mewn i Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Aethom ar draws Llyn Mawr, tuag at y rhaeadr, at yr olygfa o’r rhaeadr, Llyn Felin-gat, ac yna i Gae Trawscoed, gan ddychwelyd trwy Goed y Tylwyth Teg a Gardd Wallace.
Roedd y tymor wedi gweld amodau sych yn y cyfnod cyn yr ymweliad, ond roedd y rhedyn yn edrych yn dda. 4 rhywogaeth o Farchredyn (Dryopteris) – daethpwyd o hyd i Dryopteris affinis, Dryopteris borreri, Dryopteris dilatata a Dryopteris filix-mas yn tyfu’n agos at ei gilydd ar ymylon y coetir ysgafn ar ochrau’r llwybr. Daethpwyd o hyd i’r rhedynen ungoes Pteridium aquilinum a’r marchrawn Equisetum arvense yng nghyffiniau’r rhywogaethau Marchredyn.
Wrth fynd ar draws y dolydd roedd y blodau gwyllt helaeth yn cynnwys y tegeirian llydanwyrdd hudolus Platanthera chlorantha. Wrth adael y ddôl, gwelwyd yn y llystyfiant ar ochr y llwybr Athyrium filix-femina a Polystichum setiferum. Yna wrth fynd dros y bont gwelsom yr epiffytau cyntaf, yn hongian ar ganghennau yn agos at y dŵr. Nodwyd gan Gymdeithas Rhedynegol Prydain eu bod yn rhywogaeth Polypodium, P. vulgare siŵr o fod, ond nid oedd modd gwirio o’r ddaear ac oherwydd yr amser o’r flwyddyn.
Aethom tuag at y rhaeadr, ac wrth i’r microhinsoddau gynyddu mewn lleithder, daeth y llystyfiant yn fwy ffrwythlon wrth i ni ddilyn y dŵr.
Yn y llystyfiant ar lan y nant gwelwyd Asplenium scolopendrium ac yna Struthiopteris spicant. Wrth i ni ddilyn y nant roedd yna doreth cynyddol o redyn. Gwelwyd mwy a mwy o Polystichum setiferum a Struthiopteris spicant, a’r Polystichum oedd yn dwyn yr holl sylw i mi.
Roedd yna sbesimen diddorol o Farchredyn y rhagdybiwyd mai Dryopteris affinis subsp. paleaceolobata ydoedd, ond byddai angen gwirio hynny ymhellach. Mae ardal y rhaeadr yn rhan hyfryd o’r ardd a byddai’n haeddu cael ei hastudio’n fwy manwl. Mae gan yr hydroleg y potensial i newid yn eithaf sylweddol yn y tymhorau, ac roedd y lefelau dŵr yn isel adeg yr ymweliad. Mae’r nodweddion hyn yn theatrig ac yn gymhleth, gan gynnig microhinsoddau diddorol a chilfachau ecolegol. Mae cynefinoedd fel hyn yn eiconig, ac efallai y dylent gael dylanwad sylweddol ar ddyluniad y rhedynfa cynhenid i’r DU.
Taflwyd golwg ar y pwll trochi Fictorianaidd ar y ffordd yn ôl i Goed y Tylwyth Teg, a gwelsom enghreifftiau prin o Asplenium trichomanes subsp. quadrivalens a’r Asplenium ruta-muraria ymhlith nodweddion tirlunio caled carreg. Ailymddangosodd y rhain ar y waliau yng Ngardd Wallace wrth i ni ddychwelyd.
Diolch i bawb fu’n rhan o’r diwrnod. Edrychwn ymlaen at groesawu Cymdeithas Rhedynegol Prydain yn ôl i’r Ardd Fotaneg yn yr hydref ar gyfer gweithdy lluosogi rhedyn, darlith ar redyn Cymru, ac i ddechrau mynd ati’n sensitif i gasglu rhedyn cynhenid o’r dirwedd i’r rhedynfa.