8 Awst 2022

Tyfwyr Byw’n Dda – Darren yn arwyddor ffordd

Amy Henderson

Cefais y syniad o lunio arwydd fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r holl bobl sy’n defnyddio’r ardd i’w helpu i adsefydlu, fel yr wyf i wedi gwneud.

Rwyf yn wir wedi gwerthfawrogi’r cyfathrebu a’r gweithgareddau, megis rhoi syniadau am arddio a phlannu, ac mae mor braf mynd â’r wybodaeth hon yn ôl i’n bywydau gartref. Rwyf wedi defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i barhau â’m hadferiad gartref yn Nhŷ Arfryn, lle rwyf wedi bod yn gweithio yn yr ardd, sydd bellach yn llawn llysiau, a hefyd wedi adeiladu libart ieir, lle mae pedair iâr yn byw erbyn hyn ac yn rhoi wyau i ni.

Dechreuodd f’adferiad yn yr Ardd Fotaneg yn 2018. Mae wedi trawsnewid fy mywyd ac yn gwbl gyfrifol am y modd yr wyf yn bwyta ‘nawr. Mae llysiau’n rhan o’m bywyd trwy’r adeg bellach ac rwyf wrth fy modd yn bod ar ddeiet iach.

Roeddwn am wneud arwydd ystyrlon ar gyfer pob un ohonom.

Mae’n rhyfeddol bod yng nghwmni pob un yn ein grŵp a chael bod o amgylch pobl sydd yn yr un sefyllfa yn union. Mae’r arwydd ar gyfer y grŵp ac mae’n cynrychioli’r hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud ar ein cyfer pob un. Mae’n hynod o wefreiddiol ein bod wedi gallu mynd i’r afael â’n hadferiad yno, a bydd hyn o fudd i ni am weddill ein bywydau.

Wrth i mi symud ymlaen yn fy mywyd, roeddwn am roi rhywbeth yn ôl a chreu atgof parhaol o’r cyfan yr wyf wedi elwa ohono trwy’r grŵp hwn. Fel fi, rwy’n gobeithio y bydd yr arwydd yn ysbrydoli pobl eraill i ddefnyddio’r Ardd i’w helpu i adsefydlu.