16 Awst 2022

Siarcol Pren Caled ar werth nawr

Alex Summers

Mae ein golosg wedi’i gynhyrchu’n ofalus gan ein Tîm Ystâd o goed sydd wedi’u cwympo fel rhan o’n dull cynaliadwy o reoli’r coetiroedd ar draws yr Ardd a’r Warchodfa Natur Genedlaethol. 

Gan ddefnyddio Odyn OIosg Exeter Retort, mae ein tîm yn prosesu pren wedi’i galedu i greu golosg sy’n berffaith i’w ddefnyddio mewn barbiciw. Mae’r Exeter Retort yn odyn sydd wedi’i chynllunio’n arbennig  i edrych yn debyg i drên ager syml fel y gall ein Tîm Ystâd ei gludo o gwmpas y safle i losgi’r coed. 

Caiff siambr fewnol yr Exeter Retort ei llenwi’n dynn â choed wedi’u sychu i gael eu troi’n olosg. Ar hyn o bryd rydyn ni wedi bod yn defnyddio Coed Ynn (Fraxinus excelsior) yn bennaf oherwydd gorfod eu cwympo gan eu bod wedi dioddef gan y ffwng Gwywo Coed Ynn (Hymenoscyphus pseudoalbidus). O ganlyniad, mae‘r broses o gynhyrchu golosg hefyd yn ffordd gynaliadwy o ladd y sborau ffwng yn y pren ac arno i’w hatal rhag lledu o’r coed marw i’r rhai iach. 

Yn y siambr allanol rydym yn creu tân sy’n lledu drwy’r odyn i gynhesu’r pren yn y siambr ganol. Drwy gynhesu’r pren mewn amgylchedd lle nad oes lllawer o ocsigen yn y siambr fewnol, caiff dŵr a nwyon anweddol eu tynnu allan o‘r pren i roi golosg sy’n uchel mewn carbon. Oherwydd ei fod mewn cyflwr sy’n llawn carbon, mae’n llosgi ar dymheredd llawer uwch na phren, sy’n golygu ei fod  yn berffaith ar gyfer coginio neu i’w ddefnyddio gan ddiwydiant, fel gwaith gof. 

Bydd ein tîm Ystâd yn monitro cynnydd y llosgi gan ddefnyddio thermomedr wedi’i gysylltu wrth y siambr fewnol. Pan fydd y tymheredd yn cyrraedd 450 gradd Celsius, gosodir cap ar y rhan lle mae’r golosg.  Mae hyn yn ailgyfeirio’r nwyon anweddol i lawr i’r siambr fewnol., a hyn hefyd yn rhyddhau’r nwyon, sy’n cael eu gollwng i’r  atmosffer o’r broses. Mae cynllun y peiriant yn golygu y gellir gorffen y llosgi cyn pen diwrnod gwaith, sydd lawer yn gyflymach nag mewn Odyn Gylch draddodiadol. 

Drwy’r flwyddyn bydd ein tîm yn creu golosg  ar yr ystâd ehangach i ddangos  y broses i ymwelwyr. Os gwelwch nhw, ewch draw i ddweud helo i gael gwybod rhagor. Daw’r pren i gyd o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol pan fydd angen i goed gael eu cwympo am resymau diogelwch, felly mae ein golosg yn cael ei dyfu, ei gynaeafu a’i brosesu’n wirioneddol leol. Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio golosg wedi’i falu a elwir yn Biochar, sy’n cael ei ddefnyddio mewn garddwriaeth i wella ffrwythlondeb y pridd ac i ddal a storio carbon. Gobeithiwn werthu hwn yn fuan a’i ddefnyddio hefyd mewn ymchwil wyddonol yn yr Ardd.  

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau ein siarcol, galwch draw i ganolfan arddio Pot Blodyn, y Porthdy neu’r siop anrhegion i brynu sachaid. Mae pob sachaid yn cyfrannu at waith cadwraeth yr Ardd a pharhau i reoli ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn gynaliadwy.