26 Awst 2022

Lleoliad Eden Project

Rowan Moses

Gan mai dim ond y tŷ trofannol llawer llai sydd gennym  ni yma, penderfynais y byddwn yn hoffi cael mwy o brofiad gyda phlanhigion trofannol ar raddfa fwy, a gweithio yn y biom Fforestydd Glaw yn yr Eden Project a gweld y gwahanol bethau y gellir eu gwneud â nhw. Roedd gen i ddiddordeb hefyd  yn y gwaith cadwraeth y tu allan i’r safle yn y biom Fforestydd Glaw oherwydd dinistrio’r fforestydd glaw go iawn! Pwll cloddio clai oedd safle’r Project yn wreiddiol, ac mae wedi ei adeiladu fel na fyddwch yn gweld y biomau nes ichi ddod allan o’r safle yn iawn, felly roedd yn gyffrous iawn sefyll ar yr olygfan yn y llun uchod a gweld yr olygfa am y tro cyntaf. 

Roedd yno nifer fawr o blanhigion diddorol y cefais gyfle i weithio gyda nhw. Rhai o’m ffefrynnau oedd y siglen mangrof (Rhizophora mangle) sydd newydd ei phannu. Mae coedwigoedd mangrof yn tyfu ar yr arfordir a’u gwreiddiau’n helpu cydio’r glannau ynghyd rhag eu herydu. Ond rhai bach yw’r rhain, felly ni fyddan nhw’n dal fawr o ddim nôl eto! 

Maen nhw hefyd yn gynefin pwysig iawn i nifer fawr o blanhigion ac anifeiliaid eraill gan eu bod yn tyfu mewn dŵr heli. Mae’r gwreiddiau sy’n eu dal uwchlaw’r dŵr yn cael eu galw’n wreiddiau hirgoes, ac mae gan rai mathau hyd yn oed wreiddiau “anadlu” a elwir yn niwmatofforau sy’n tyfu uwchlaw’r ddaear. 

Roedd hefyd yn braf gweld Colocasia esculenta, sy’n aml yn cael eu galw’n taro. Mae ganddynt gormau y gellir eu bwyta, a chânt eu tyfu fel llysiau gwraidd mewn nifer o fannau trofannol. Credir mai Colocasia yw un o’ r planhigion cynharaf i gael eu hamaethu!

Yn ystod y lleoliad bûm yn helpu dyfrhau’r biom a gwneud ychydig waith trwsio ar y system dyfrhau lle’r oedd angen ei hymestyn.  Gwnaethom lawer o waith hefyd yn chwynnu rhwng planhigion a oedd wedi mynd allan o reolaeth yn y gwahanol adrannau, a chan fod y rhan fwyaf o’r gwelyau ar lethr gallai deimlo’n debycach i fentro i’r anialwch na’r chwynnu rwyf yn gyfarwydd ag ef yma! Bûm hefyd yn helpu fframio rhai o’r epiffytau roedd Russel a minnau wedi dod â nhw gyda ni ar eu rhysgl yn barod i’w harddangos ar y mur epiffytau.  

Roedd hyn yn hwyl – roedd rhaid i ni fynd ar ben ysgol godi hir i gyrraedd teras uchaf y mur! 

Ar ôl gorffen gwaith byddwn yn aros i archwilio gweddill  safle’r Eden Project. Roedd yn braf cael treulio amser yn y biom Canoldirol a gweld planhigion sy’n gyfarwydd i fi o’n Tŷ Gwydr Mawr ni, fel yr arddangosiadau Angiozanthus.. Byddai’n mynd yn gynnes iawn yn y biomau pan fyddai’n heulog, a dydw i ddim yn credu bod y staff sy’n gweithio yno’n sylweddoli faint roedden nhw wedi dod yn gyfarwydd â’r gwres. Erbyn diwedd yr wythnos doeddwn innau chwaith ddim yn sylwi gymaint, ond roedd cerdded adre gyda’r nos yn hyfryd ac yn ffres.

Ar y diwrnod olaf aed â fi i olygfan biom y Fforestydd Glaw, sef llwyfan yn crogi yng nghanol y biom. Roedd hi’n wych gweld cynllun y gwelyau oddi uchod a gwahanol weadau ac arferion tyfu popeth, yn enwedig gan fod cymaint yn mynd ymlaen dan haenau’r canopi. Gallem weld llawer o flodau na fyddwn byth wedi eu gweld o lefel y ddaear. Roedd yn lle gwych i fod ar leoliad,  ac rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint ac wedi cwrdd â chymaint o bobl hyfryd. Roedd y bobl yn fy llety yn ddymunol iawn, ac roedd ganddyn nhw lawer o hanesion diddorol am sefydlu’r Eden Project ar y cychwyn. Rhwng popeth, amser hyfryd iawn!