22 Gorff 2022

Gweision Neidr yr Ardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae’r Ardd yn fyw gan gynnwrf ar hyn o bryd, yn llawn pryfed o bob lliw a siâp – mae yna bili-palod, gwyfynod, cacwn, gwenyn unigol, lindys, sioncod gwair a chriciaid i enwi ond rhai. Serch hynny, rhaid taw’r gweision neidr ymysg y mwyaf trawiadol ohonynt, gan wibio o gwmpas yn gyflym iawn!

Gellir adnabod gweision neidr gan eu cyrff mawr a dau bâr o adenydd tenau sydd gyda phatrymau cymhleth. Mae gweision neidr yn debyg i fursennod, ac mae’r ddau yn perthyn i’r un urdd, Odonata. Dyma rhai o’r prif wahaniaethau rhwng y ddau grŵp:

  • Mae mursennod yn llai o faint na gweision neidr.
  • Mae gweision neidr yn gorffwys gyda’u hadenydd ar agor, lle mae mursennod yn gorffwys gyda’i hadenydd ar gau.
  • Mae llygaid gweision neidr yn cyfarfod ar dop y pen, ond nid ydy llygaid mursennod yn cyffwrdd.

Ond, nid ydy’r nodweddion yma yn hawdd u’w gweld o bell, yn enwedig pan maent yn symud o gwmpas yn gyflym. Y ffordd hawsaf i wahaniaethu rhwng gweision neidr a mursennod yw wrth edrych arnynt yn hedfan – mae gweision neidr yn llawer cryfach, gan hedfan yn fwy grymus a phwrpasol, ac maent yn aml yn ymladd gyda’i gilydd yn yr awyr. Ar y llaw arall, mae mursennod yn llai o faint, ac yn fwy bregus, gyda hedfaniant wannach a mwy cryndodus. Mae’r ddau grŵp o bryfed yn anhygoel i weld, a gellir eu ffeindio mewn amrywiaeth o gynefinoedd glwyptir, yn enwedig rhai sydd gydag ansawdd dŵr da.

Mae gweision neidr yn greaduriaid rhyfeddol, ac yn rhai o’r pryfed hedfan a oedd cyntaf i esblygu, dros 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl – maent yn ôl-ddyddio’r deinosoriaid gan bron 100 miliwn o flynyddoedd! Mae dal ganddynt ychydig o gliwiau sydd yn dangos eu llinach hynafol y gellir eu gweld hyd heddiw – mae ganddynt batrymau ar eu hadenydd sydd yn ddryslyd a chymhleth iawn, sydd yn wahanol i bryfed a wnaeth esblygu’n fwy diweddar sydd cymaint o wythiennau ar eu hadenydd. Yn ogystal, mae cyhyrau adenydd gweision neidr wedi cysylltu yn uniongyrchol i’r adenydd, sydd yn caniatáu symudiad annibynnol pob un adain, gan alluogi arddangosfa ysblennydd o erobateg! Dyma’r rheswm pam mae gweision neidr yn gwneud cymaint o sŵn wrth iddynt hedfan heibio, gan fod ganddynt guriad adenydd llawer arafach o 30-40 curiad yr eiliad, o’i gymharu gyda gwybed mân sydd yn curo eu hadenydd hyd at 1,000 o weithiau pob eiliad.

Nodwedd arall anhygoel gweision neidr yw eu golwg. Mae ganddynt lygaid cyfansawdd anferth sydd yn cynnwys dros 30,000 o ffasedau unigol – dyma’r gymhareb maint llygaid i faint corff mwyaf o fewn y deyrnas anifeiliaid. Mae gweision neidr hyd yn oed yn gallu gweld yn gyflymach na ni; mae pobl yn gallu gweld 60 ffrâm pob eiliad, lle mae gweision neidr yn gallu gweld tua 200 o ddelweddau pob eiliad. Mae hyn yn eu galluogi iddynt weld, ymateb i a dal pryfed eraill wrth hedfan, ac mae yn defnyddio 80% o’r ymennydd i brosesu’r wybodaeth weledol!

Mae cylch fywyd gweision neidr hefyd yn ddiddorol iawn, gyda chyfnod larfal dyfrol sydd yn gallu para mwy a 5 mlynedd. Mae gwrywod rhai rhywogaethau yn diriogaethol iawn ac yn ymladd o hyd er mwyn amddiffyn safleoedd bridio addas. Mae’r gwrywod a’r benywod yn dod at ei gilydd, gan gyplu mewn ystum ‘olwyn,’ ac yn aml gellir eu gweld yn hedfan o gwmpas fel hyn. Mae’r benywod yn dodwy eu hwyau sydd wedi eu ffrwythloni mewn planhigion suddedig neu yn syth mewn i’r dŵr. Yn ystod y gwanwyn dilynol, bydd y ddeor a bydd y larfa yn ymddangos – mae gweision neidr yn treulio rhan fwyaf o’u bywydau fel nymffau o dan y dŵr, gan fwydo ar bryfed eraill, penbyliaid a hyd yn oed pysgod bach. Yn ystod eu hamser o dan y dŵr, mae’r larfa mynd trwy 5-14 proses o fwrw hengroen cyn iddynt fod yn barod i ymlusgo allan o’r dŵr a cholli eu croen am y tro olaf er mwyn cwblhau eu metamorffosis mewn i fod yn aeddfed. Mae datblygiad larfal fel arfer yn cymryd un neu ddwy flwyddyn, ond mae hyn yn dibynnu are y rhywogaeth, tymheredd y dŵr a faint o fwyd sydd ar gael.

Pan mae’r nymff yn llawn twf, mae’n dringo i fyny allan o’r dŵr er mwyn ffeindio lle addas i gwblhau ei drawsffurfiad. Maent yn ailddosbarthu’r hylif o fewn eu cyrff fel bod y croen ar eu cefn yn torri ar agor, ac mae’r gwas neidr yn dod allan yn araf fel oedolyn, gan adael y croen gwag ar ôl, a elwir yn ‘exuvia’. Mae’n cymryd amser i’r adenydd a’r corff i ehangu a chaledu, felly maent yn fregus iawn ar yr adeg yma; amcangyfrifir bod hyd at hanner o gyfodiadau yn aflwyddiannus oherwydd ysglyfaethu. Mae gweision neidr sydd newydd drawsffurfio yn anaeddfed; maent yn deneuach, mwy gwelw ac yn wannach wrth hedfan, felly mae’n cymryd rhai wythnosau o fwydo a thywydd da cyn iddynt fod yn hollol aeddfed ac yn barod i edrych am gymar.

Mae gweision neidr yn bryfed rhyfeddol, gyda hanesion bywyd diddorol iawn! Cofiwch i gadw eich golwg allan am rhai o’r rhywogaethau sydd gennym yn yr Ardd:

 

Cyfeirnodau:

British Dragonfly Society https://british-dragonflies.org.uk/odonata/life-cycle-and-biology/#:~:text=Mating%20in%20dragonflies%20is%20unique,abdominal%20claspers%20(tandem%20position).

BBC Earth https://www.bbc.com/reel/video/p035dt53/dragonflies-see-the-world-in-slow-motion

WWT https://www.wwt.org.uk/discover-wetlands/wetland-wildlife/dragonflies-and-damselflies/