13 Meh 2022

Tyfwyr Byw’n Dda – Andrew

Amy Henderson

RYDYM YN PALU, YN PLANNU AC YN CHWYNNU … MAE’R AELOD NEWYDD, ANDREW, YN RHANNU EI BROFIAD O’R TYFWYR BYW’N DDA

Pan euthum i’m sesiwn gyntaf gyda’r “Tyfwyr Byw’n Dda”, roeddwn yn ansicr beth i’w ddisgwyl a sut y byddai’n fy helpu.

Ar ddechrau pob sesiwn rydym yn trafod sut yr ydym yn teimlo, sut wythnos yr ydym wedi’i chael, pa dasgau yr ydym am eu cyflawni yn ystod y sesiwn, a pha gacennau y byddwn yn eu cael yn yr egwyl te.

Rydym yn palu, yn plannu, yn chwynnu, yn adeiladu, yn siarad, yn gorffwys!

Ar ôl tua phedair sesiwn, roeddwn yn raddol ddod i adnabod y bobl eraill yn y grŵp; byddem yn siarad â’n gilydd am ein profiadau. Bob wythnos byddem yn siarad yn fwy agored am ein “digwyddiadau” go iawn a’r effaith yr oedd wedi’i chael ar ein bywydau.

Po fwyaf o sesiynau yr wyf yn mynd iddynt, y gorau yw’r sesiynau.

Gallaf ‘nawr weld eraill yn gwella. Gallaf weld pobl yn ffurfio clymau agosrwydd, ac mae pawb yn ymddangos yn gyfforddus â’i gilydd.

Mae gan bob un ohonom heriau gwahanol, ac mae’r tîm cymorth o feddygon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a staff Botanegol yn anhygoel o ran y ffordd y maent yn defnyddio eu sgiliau i sicrhau’r ymdrech orau gan bawb. Bob sesiwn maent yn ein herio i ddod yn fwy hyderus; maent yn annog ac yn canmol.

Mae eu hymagwedd gadarnhaol yn heintus.

Cyn i mi ymuno â’r grŵp Tyfwyr Byw’n Dda roedd gennyf gylch mawr o gyfeillion.

Erbyn hyn mae gennyf gylch mwy.

Diolch i chi i gyd