24 Meh 2022

Gerddi twll-y-clo yng ngardd Tyfu’r Dyfodol

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Yn y blog hwn rwy’n ceisio rhoi ichi ychydig wybodaeth o ble mae garddio twll-y-clo wedi tarddu a pham rydyn ni wedi dewis adeiladu ein gardd ni o’r defnyddiau sydd gennym.


O ble daeth y syniad?

Mae garddio twll-y-clo yn tarddu o Lesotho yn neheudir Affrica, acmae’r enw’n dod o’r llwybr ar siáp lletem a’r man compostio canolog sy’n edrych fel twll-y-clo. Cafodd ei ddatblygu er mwyn darparu ateb i bridd gwael, ac i gynnig amodau tyfu gwell mewn amgylchedd sydd fel arall yn sych ac yn galed. Drwy godi muriau i fyny yn hytrach na cheisio palu i lawr gall compost gael ei ychwanegu sy’n cadw lleithder ac sy’n llawn maethion ar ben tir sych, caregog neu wael. Mae garddio twll-y-clo yn rhoi mynediad hawdd i’r holl fan tyfu gan fod y gwely yn dwt ac yn wedi ei godi uwchlaw’r tir. Mae’r bin compostio’n golygu nad oes angen cario gwastraff yn rhy bell – gall chwyn a thoriadau gael eu rhoi i mewn yn syth – a bydd y maethion o’r compost yn cael eu gweithio’n ôl i mewn i’r compost o gwmpas gan bryfed genwair ac organebau eraill sydd mewn pridd.

Cerrig neu flociau yw’r dewis arferol i adeiladu’r mur allanol, oherwydd byddant yn cadw gwres yr haul ac yn dal dŵr. Mae nifer o ddewisiadau ar gael hefyd i brynu pecynnau parod neu rai mewn pecynnau gwastad. Fel rheol maent wedi’u eu gwneud o blastig, a fyddai’n para’n hir ac yn ffordd gyflym i sefydlu gwely twll-y clo. Ond yma yn yr Ardd Fotaneg penderfynwyd defnyddio’r hyn sydd gennym o gwmpas y safle, gan ddangos y gellir gwneud un o’r gwelyau hyn o ddefnyddiau sydd gennych wrth law, yn cadw’r costau’n isel ac yn defnyddio pethau a fyddai fel arall yn ddiangen.

Ein gwelyau twll-y-clo…

Mae gennym ddau wely twll-y-clo – y naill wedi ei wneud o baledi sy’n fwy onglog – a’r llall wedi ei wneud o frigau helyg wedi eu gwau ynghyd, sy’n ffordd lawer mwy organaidd.

Pren dros ben o’r compost sy’n ein cyrraedd yw’r paledi – rhai hawdd eu torri i’w siâp a digonedd ohonynt o gwmpas y safle. Rhoddwyd staen arnynt i’w diogelu ychydig rhag y tywydd ac er mwyn iddynt beidio â dangos y llaid a’r llwch mor hawdd. Yr unig ran o’r adeiledd hwn a gafodd ei brynu oedd y croen eco a ddefnyddiwyd; mae yna nifer o wahanol grwyn y gallech eu defnyddio i atal y pridd rhag disgyn allan drwy’r bylchau yn y paledi. Cafodd y paledi wedyn eu cydio wrth ei gilydd â sgriwiau, a defnyddiwyd brigau coed cyll a oedd hefyd wedi eu crynhoi o fannau o gwmpas safle’r Ardd Fotaneg. Mae’r gwely hwn yn eithaf uchel, ond byddai’r uchder ychwanegol yn dda wrth adeiladu gardd gyfleus – i’w gwneud yn haws i bobl nad ydynt yn gallu symud yn dda, neu bobl mewn cadair olwyn, i gyrraedd y man tyfu a’r planhigion.

Mae ein gwely twll-y-clo arall wedi ei wneud o brennau helyg, a oedd hefyd wedi eu cynaeafu o gwmpas safle’r Ardd Fotaneg – roedd nifer o

goed helyg (Salix sp.) wedi eu plannu gan eu bod yn dda ar gyfer mannau gwlyb, ac mae gennym ddigon o’r rheiny! Eto defnyddiwyd prennau cyll gan blethu’r brigau helyg i wneud adeiledd ar gyfer ein gwely. Cofiwch gael caniatád perchennog y tir pan fyddwch yn casglu coed helyg. Mae’n ddefnydd gwych i greu adeileddau, ac mae’n gynaliadwy gan fod y planhigyn yn aildyfu bob blwyddyn – ychwanegiad gwych i unrhyw ardd.

Ni fydd yr holl ddefnyddiau a ddewiswyd i’w defnyddio yn para mwy na dwy neu dair blynedd, ac wedi hynny byddai angen eu hadnewyddu – rhywbeth i’w gadw mewn cof wrth greu eich gwely eich hun . Os ydych yn bwriadu defnyddio’r adeiledd am amser hir, cerrig neu friciau fyddai orau.

Compostio yn eich gwely Twll-y-clo…

Fel y gwelwch o’r lluniau, rydyn ni wedi gosod polion o gwmpas ein biniau sbwriel er mwyn inni allu tyfu llysiau dringo arnynt. Ond gallwch ddewis gosod clawr neu orchudd dros y man compost. Mae hyn yn helpu atal y compost rhag sychu’n ormodol, mae’n cadw’r gwres i mewn fel y gall y compostio ddigwydd yn gyflymach, ac mae’n cadw rhywfaint o’r dŵr glaw fel na fydd y maethion yn rhedeg allan yn rhy gyflym.

Gobeithio y gall y ddwy enghraifft hon ddangos ichi mor hawdd fyddai ichi wneud eich gwely twll-y-clo eich hun – maen nhw’n wych ar gyfer mannau bach, neu os oes gennych y lle gallech greu sawl un!

Diolch yn arbennig i’n gwirfoddolwyr Alison, Peter a Tom Stopp a adeiladodd y gwelyau twll-y-clo gan ddefnyddio’u technegau a’u hangerdd dros bermamaethu.