1 Meh 2022

Canllaw i Flodau Gwyllt Mis Mehefin

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae’r cynhesrwydd a’r dyddiau hir yn gynnar yn yr haf yn cynhyrchu nifer enfawr o flodau gwyllt. Mae’r glaswelltiroedd a’r dolydd gwair yn deffro gydag amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a phryfed. O laswelltiroedd sialc ar sgarpiau uchel i ddolydd gwlyb ar lawr y dyffrynnoedd, maent yn wledd i’w mwynhau.

Mae’r gribell felen, a elwir yn ‘grëwr y dolydd’, yn sugno’r cryfder o laswellt ac yn caniatáu i flodau gwyllt ffynnu. O ganlyniad, ceir tonnau o liw o flodau ymenyn, llygad-llo mawr, a nifer o flodau eraill. Mae tegeirianau trawiadol a phrin yn darparu lliw dramatig a ffurfiau rhyfeddol – os byddwch yn ddigon ffodus i ddod o hyd iddynt. Mae dolydd traddodiadol yn llawer prinnach nag yr oeddent ar un adeg, ond maent yn werth y daith i weld ein cynefinoedd cyfoethocaf.

Mae’r pabi eiconig yn lliwio ymylon y caeau âr, lle mae’r aflonyddwch yn caniatáu i’w hadau egino. Mae’r gwrychoedd yn dal i fod yn llawn lliw, ac yn cael eu goruchwylio gan glystyrau trawiadol o fysedd y cŵn. Mae llwyni mwyar duon a rhosod gwyllt yn blodeuo mewn lliwiau cain, a hynny ynghanol y drain bygythiol, sy’n berffaith ar gyfer amddiffyn adar cân sy’n nythu.

Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i rai o’r blodau gwyllt mwyaf cyffredin a hardd y gallwch ddod o hyd iddynt yn ystod mis Mehefin, a gallwch ei lawrlwytho isod. Gyda digonedd o flodau gwyllt o gwmpas ‘nawr, mae hwn yn amser rhagorol i ymarfer eich sgiliau adnabod.

Lawrlwytho: Canllaw i Flodau Gwyllt Mis Mehefin