Mae Bruce Langridge yn sgwrsio â Huw Jones, ffermwr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mae ei angerdd dros wartheg Duon Cymreig yn amlwg wrth iddo sôn am lefelau stoc, marchnadoedd, bridio ac ansawdd cig. Mae parodrwydd Huw i groesawu syniadau newydd ynghylch annog bioamrywiaeth ar dir fferm hefyd yn ysbrydoledig, ar adeg pan fo taliadau ffermio yng Nghymru yn debygol o ganolbwyntio mwy ar nwyddau cyhoeddus.