Gellir parhau i fwynhau blodau coetir y gwanwyn yn ystod hanner cyntaf mis Mai, ond wrth i’r dail dyfu a chanopi’r coetir gau drostynt, mae’r gweithgarwch yn dechrau symud i’r awyr agored. Mewn mannau cysgodol, mae’r gludlys coch, o liw pinc dwfn, yn dechrau disodli arddangosfa ddramatig clychau’r gog.
Mae’r gwrychoedd yn dod yn fyw gyda ffrwydrad o orthyfail, sy’n ymddangos fel pe bai’n tyfu dros nos, ac yn gymar iddo y mae arlliwiau gwyn a phinc blodeuyn y ddraenen wen.
Ar hyd ymylon ffyrdd glaswelltog, mae llyriad yr ais a llygad-llo mawr llachar, gwyn yn gwmni i’r dant y llew. Gyda llawer o’r ymylon heb eu torri eleni, dyma rai o’r lleoedd gorau i chwilio am flodau gwyllt.
Yn y dolydd, mae yna flodau ymenyn, blodau ymenyn ymlusgol a blodau ymenyn bondew yn llenwi’r dirwedd, tra bo meillion coch yn darparu digonedd o neithdar a phaill ar gyfer cacwn cynnar.
Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i rai o’r blodau gwyllt mwyaf cyffredin a hardd y gallwch ddod o hyd iddynt ym mis Mai, a gallwch ei lawrlwytho isod. Gyda digonedd o flodau gwyllt o gwmpas ‘nawr, mae hwn yn amser rhagorol i ymarfer eich sgiliau adnabod.
Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau trwy gydol y flwyddyn, ac yn rhoi mwy o awgrymiadau i’ch helpu â’ch sgiliau adnabod.
Mae croeso i chi dagio @BiophilicWales neu @WatersElliot ar Twitter mewn lluniau o flodau gwyllt yr ydych wedi’u gweld, neu y mae arnoch angen help i’w hadnabod!