1 Maw 2022

Podlediad y Pot Blodyn – yr un gydag gwirfoddolwr yn yr Apothecari, Bob Edwards

Bruce Langridge

Mae Bruce Langridge yn sgwrsio â Bob Edwards am yr hwyl y mae wedi’i gael yn gwirfoddoli yn Neuadd yr Apothecari yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Clywn am y ffyrdd creadigol y mae wedi mynd ati i ddefnyddio’r casgliadau o hen fferyllfeydd i ddal sylw ymwelwyr â’r Ardd, boed hynny trwy’r gwenwynau a ddefnyddir yn nofelau Agatha Christie, mandragora Harry Potter, gelod sy’n sugno gwaed, arogl thus, cyfog morfilod, neu effaith leddfol sigaréts asthma.

Mae Bob hyd yn oed yn chwarae cân i ffarwelio.