28 Chwef 2022

Rhew Gwallt Rhyfedd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae cerdded i’r gwaith ar foreau oer a rhewllyd yn fy nghyffroi am nifer o resymau. Rydw i’n gallu cymryd fy amser yn cerdded trwy’r dirwedd sydd wedi’i adfer, gan edmygu’r niwl sydd yn codi o’r llynnoedd a gweld y rhew yn disgleirio yn yr haul… ac rydw i’n gallu hela am rew gwallt! Rhaid bod yr amodau yn berffaith; tymheredd is na’r rhewbwynt ac aer llaith. O bryd i’w gilydd, rydw i’n ddigon ffodus i ddod ar draws clwstwr bach bregus o edefynnau iasol, wedi nythu ymysg y dail.

Mae rhew gwallt yn fath o rew anarferol iawn, ac ond yn ffurfio o dan amodau penodol. Mae’n tyfu ar arwyneb pren marw o goed llydanddail pan mae tymereddau ychydig islaw 0°C, ac mae’r amodau yn dawel a llaith. Mae’r edefynnau yn 0.02 mm mewn diamedr ac yn gallu tyfu mor hir â 20 cm, gan edrych fel clystyrau o wlân wen yn gwthio allan o frigau a changhennau sydd wedi cwympo i’r ddaear. Mae’r blew sidanaidd llyfn yn gallu ffurfio tonau neu fodrwyau prydferth, cyn iddynt doddi yn yr haul. Felly, rhaid eich bod allan yn gynnar er mwyn ceisio gweld yr olygfa yma i’ch hun!

Cafodd rhew gwallt ei ddisgrifio am y tro cyntaf dros ganrif yn ôl, gan Alfred Wegener, a wnaeth hefyd sylfaenu theori o symudiadau cyfandirol. Fe wnaeth Wegener arsylwi taw dim ond ar ganghennau lle’r oedd edeifion myseliwm ffwng yn bresennol yr oedd y rhew gwallt yn tyfu. Cymerodd bron can mlynedd nes i wyddonwyr adnabod y ffwng sydd yn achosi ffenomenon o rew gwallt fel Exidiopsis effusa, a gafodd ei ddarganfod yn 2015.

Mae presenoldeb y ffwng yma yn arwain at broses o’r enw ‘arwahaniad rhew’:

  1. Mae’r hylif sydd yn agos at arwyneb y gangen yn dod mewn i gysylltiad gyda’r aer oer, gan greu haenen denau o rew, sydd yn gwasgu haen o ddŵr rhwng y rhew a’r mandyllau yn y pren.
  2. Mae hyn yn creu grym sugnad, sydd yn gwthio’r dŵr sydd tu fewn i’r mandyllau tuag at y rhew sydd ar yr arwyneb, lle mae’n rhewi ac yn ychwanegu at yr iâ sydd yno’n barod.
  3. Wrth i’r proses yma ailadrodd, mae’r rhew yn adeiladu, gan wthio ‘blewyn’ tenau allan o’r pren.

Mae’r ffwng yn darparu lignin a thannin sydd wedi pydru fel defnydd organig, a meddylir eu bod yn ymddwyn fel ‘atalyddion ailgrisialu,’ sydd yn cadw’r crisialau rhew rhag tyfu’n rhy fawr ac yn eu hatal rhag casglu lan mewn i adeileddau mwy sefydlog. Felly, pan nad ydy’r ffwng yn bresennol, mae rhew dal yn ffurfio, ond mae’n ffurfio crwst yn lle fel blew.

Mae’r astudiaeth yma wedi ein galluogi i ddeall y dirgelwch o rew gwallt yn well, ond mae angen mwy o ymchwil er mwyn cadarnhau’r theori yma, ac mae yna mwy o gwestiynau sydd bellach angen eu hateb. Mae ymddangosiad y rhew gwallt rhyfedd yma dal i fod yn enigma!

Tro nesaf mae yna rew a lleithder, cadwch eich llygaid ar agor wrth iddych cerdded trwy Goed y Tylwyth Teg ac o gwmpas y llynnoedd sydd newydd eu hadfer – efallai byddwch yn ddigon ffodus i weld y blew rhewllyd yma i’ch hun! Ond, dewch yn gynnar, gan nid yw’n cymryd hir nes i’r arddangosfa brydferth yma toddi yn yr haul, ac mae presenoldeb y ffwng wedi ei guddio unwaith eto.

 

Cyfeirnodau:

Hofmann, D., Preuss, G., Mätzler, C. (2015) Evidence for biological shaping of hair ice, Biogeosciences, Ar gael: https://bg.copernicus.org/articles/12/4261/2015/

Met Office, Hair Ice, Ar gael: https://www.metoffice.gov.uk/weather/learn-about/weather/types-of-weather/frost-and-ice/hair-ice