10 Ion 2022

Kate Jones – Gwerthfawrogiad

Bruce Langridge

Mae un o’n gwirfoddolwyr sydd wedi gwasanaethu hiraf yma wedi marw.

Roedd Kate Jones wedi bod yn fy helpu gyda’m gwaith ers iddi ymuno gyntaf yn rôl gwirfoddolwr yn 2008. Roedd yn rhan o dîm bach ond ymroddedig o wirfoddolwyr a helpodd i weddnewid ychydig focsys o lyfrau botanegol rhoddedig i greu’r llyfrgell drefnus, gwbl restredig sydd yma bellach.

Cymerodd Kate rôl arbennig o flaenllaw wrth roi trefn ar ein casgliad mycolegol – llyfrau am ffyngau.

Dechreuodd weithio ar Gasgliad Stan Hughes gyntaf, sef casgliad o lyfrau, cyfnodolion a phapurau gwyddonol arbennig o gymhleth. Nid mycolegydd oedd Kate, ond ni chafodd ei digalonni gan y derminoleg gymhleth na’r ffaith bod rhai ohonynt mewn Rwseg a Japaneeg. Yna, aeth i’r afael â Llyfrgell Roy Watling, gan estyn croeso cynnes i Roy yn ystod ei deithiau achlysurol yma. Os daethoch i un o’n Diwrnodau Ffwng Cymru yn ystod y 2010au, mae’n ddigon posibl eich bod wedi dod i gysylltiad â Kate wrth iddi siarad yn llawn brwdfrydedd ag ymwelwyr yr Ardd am y llyfrgelloedd mycolegol mewn arddangosfeydd a grëwyd ganddi o’r llyfrau, yn enwedig y rheiny a oedd yn cynnwys gwybodaeth Americanwyr brodorol a Beatrix Potter am ffyngau. Rhaid i mi sôn bod Kate wedi cael cefnogaeth fedrus ei gŵr Geoff, yn enwedig yn ei blynyddoedd olaf, ynghyd â’i mab Bryn gyda’r system catalogio llyfrgelloedd ffynonellau agored, sef Koha, a roddodd yr offeryn i ni greu’r catalog. Roedd hyn wedi cynnwys cysylltu â’r tîm TG yn Kew, a ganiataodd i ni ddefnyddio eu cofnodion. Ar nodyn personol, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y modd y mae Kate wedi helpu i godi proffil ffyngau yn yr ardd fotaneg hon.

Dan arweiniad gwirfoddol Margot Greer, daeth Kate hefyd yn rhan o brosiectau a ysgogwyd gan gasgliadau’r llyfrgell, megis y rhai’n ymwneud ag afalau a garddwriaethwyr Cymru.

Fy ffefryn, serch hynny, oedd yr arddangosfa am Fotanegwyr Benywaidd yng Nghymru, sy’n dal i gael ei chynnal yn ein Canolfan Wyddoniaeth. Ysgogwyd hon gan wyddoniadur newydd am Gymru nad yw’n sôn am yr un fenyw yn ei hadran ar fotaneg Cymru. Roedd gan Kate gredoau gwleidyddol diffuant a oedd, rwy’n tybio, yn gyrru ei chymhelliant i gymryd rhan, nid yn unig yn y prosiect hwn i dynnu sylw at waith menywod ym maes botaneg yng Nghymru, ond hefyd i greu llyfrgell a fyddai’n deilwng o sefydliad cenedlaethol. A gwnaeth hynny, yn bendant.

Pan oedd yn byw yn Llanwrtyd, roedd Kate hefyd yn wirfoddolwr parod a rheolaidd yn yr arddangosfeydd a gynhaliwyd gennym yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Ar ôl symud i Abertawe, ac er bod ei golwg yn pylu, roedd dyfalbarhad Kate i barhau i wirfoddoli yn golygu ei bod yn darparu diweddariadau wythnosol i ni ar y gwasanaeth bws rhwng Abertawe a’r Ardd Fotaneg, ac ysbrydolodd wirfoddolwyr eraill i ymuno â hi ar y bws.

Gall gwaith gwirfoddolwyr gael ei anwybyddu yn aml gan fod llawer ohono’n digwydd yn y cefndir. A minnau’n aelod o staff, gwn faint o ryddhad yw cael gwirfoddolwr tebyg i Kate, y gallwch nid yn unig ymddiried ynddo i fwrw ymlaen â gwneud gwaith gwych, ond y mae ei frwdfrydedd yn helpu i’ch cymell yn bersonol. Rwy’n gobeithio bod y deyrnged fer hon yn helpu i amlygu faint y mae’r cymorth hwnnw’n cael ei werthfawrogi.