5 Hyd 2021

Tyfwyr Byw’n Dda – Blog Cyntaf Clive

Amy Henderson

Mae mynychu’r grŵp tyfwyr yn gwneud i mi deimlo’n hapus ac yn gartrefol, gan wella fy llesiant.

Mae’r tasgau yr ydym yn eu cyflawni yn cynnwys tacluso cyffredinol, chwynnu, a pharatoi ardaloedd i blannu e.e. betys, tomatos a ffa dringo.

Mae’r gweithgareddau hyn wedi fy helpu i wella fy symudedd, gan gynnwys cerdded o amgylch a phlygu. At hynny, mae gweithio gydag eraill yn fy helpu i feithrin fy sgiliau cyfathrebu.

Yn olaf, rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at baned, cacen a bisgedi! Mae hyn yn fy ngalluogi i orffwys, ac yn rhoi cyfle i mi gymysgu a chymdeithasu ag aelodau eraill o’r grŵp.

Mae’r profiad cyfan yn parhau i wella fy hyder yn ystod fy nghyfnod adsefydlu.