18 Hyd 2021

Lliwiau’r Hydref

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Rydym bellach yn nhymor yr hydref, gyda’r tywydd yn dechrau oeri a’r diwrnodau fyrhau. Ond, gall hydref fod y tymor mwyaf prydferth ohonynt i gyd, gyda’r dirwedd yn newid lliw o wyrdd i sbectrwm cyfan o oren, coch a melyn! Yma yn yr Ardd, mae’n teimlo’n hydrefol iawn, gyda’r coed yn dechrau trawsnewid a goleuo’r dirwedd gyda’u dail amryliw. Ond pam ydy dail yn newid lliw ac yn disgyn yn ystod yr hydref?

Sut ydy dail yn newid lliw?

Tu mewn i ddail coed a mwyafrif o blanhigion mae pigment gwyrdd o’r enw cloroffyl, sy’n defnyddio golau’r haul, carbon deuocsid a dŵr i gynhyrchu egni mewn proses o’r enw ffotosynthesis. Mae’r egni a chynhyrchwyd ar ffurf siwgr, a dyma unig ffynhonnell carbohydradau sydd gan y goeden, ac mae ei angen ar gyfer twf a datblygiad. Felly mae’n bwysig iawn i’r goeden cynhyrchu a disodli cloroffyl yn barhaol yn ystod y tymor tyfu fel bod y dail yn aros yn wyrdd ac yn gallu amsugno golau.

Fodd bynnag, yn ystod yr hydref wrth i oriau’r dydd byrhau a’r tymheredd yn oeri, mae coed diosgol (sydd yn colli eu dail ar gyfer y gaeaf) yn dechrau cau ffotosynthesis i lawr ac yn difetha’r cloroffyl o fewn eu dail er mwyn ailgylchu’r molecylau a maetholion mewn mannau eraill y goeden. Wrth i gloroffyl cael ei dorri lawr, gellir gweld y pigmentau eraill o fewn y dail a oedd yn flaenorol wedi cael eu cuddio gan wyrdd goruchaf y cloroffyl.

Carotenoidau yw’r pigmentau sy’n gyfrifol am liwiau melyn-oren dail yr hydref. Maent yn ymddwyn fel pigmentau atodol ar gyfer amsugno golau a gwasgariad egni yn ystod ffotosynthesis. Mewn gwirionedd, maent yn bresennol mewn dail trwy gydol y flwyddyn, ond rhaid aros tan y caiff y  cloroffyl ei dorri i lawr yn ystod yr hydref er mwyn gallu gweld eu lliwiau. Ar y llaw arall, mae anthosyaninau yn gyfansoddion coch a phorffor sydd yn cael eu cynhyrchu o’r newydd yn ystod yr hydref, ar ôl i dua hanner o’r cloroffyl cael ei golli. Mae cymysgedd penodol y cyfansoddion yma yn wahanol rhwng rhywogaethau, felly mae union liwiau melyn, coch, aur a brown yn y dail hefyd yn amrywio, gan greu sbectrwm o liwiau sydd yn olygfa ysblennydd i weld!

Pam ydy dail yn newid lliw?

Mae’n hawdd meddwl bod lliwiau prydferth dail yr hydref yn ganlyniad hapus i’r broses o goed yn colli eu dail ar gyfer y gaeaf. Serch hynny, meddylir nawr bod yna manteision esblygiadol i’r coed cynhyrchu dail coch. Un rhagdybiaeth yw bod anthosyanin yn ymddwyn fel amddiffyniad yn erbyn yr haul er mwyn gwarchod y ddeilen yn erbyn effeithiau niweidiol yr haul ar dymheredd isel, gan ganiatáu i’r dail cadw eu gweithrediad am hirach a galluogi adamsugniad maetholion o’r dail mwy effeithlon. Ar y llaw arall, mae’r rhagdybiaeth cydesblygiad yn awgrymu gall lliw coch y dail bod yn signal rhybudd, gan leihau ymosodiadau gan bryfed. Mae pryfed yn defnyddio lliw’r dail fel dangosydd o ansawdd y goeden, ac felly yn llai tebygol o gytrefu coed gyda dail coch oherwydd maent eisiau ffeindio’r cynhaliwr mwyaf addas. Mae hyn yn buddio’r goeden trwy leihau poblogaethau pryfed ar y goeden, felly gall dail coch yr hydref bod yn addasiad i leihau costau ffitrwydd a achoswyd gan bryfed.

Beth sydd yn achosi’r proses o newid lliw?

Mae’r broses o ddail yn newid lliw yn cael ei reoli gan gyfuniad o oriau’r dydd a thymereddau’r nos. Wrth i ddiwrnodau byrhau a thymereddau disgyn, mae faint o siwgr a chynhyrchwyd gan ffotosynthesis yn lleihau, ac mae’r hormonau yn y planhigyn yn ysgogi’r proses o golli dail. Mae’r tywydd hefyd yn cael effaith mawr ar broses yma ac ar ddyfnder lliw’r dail. Mae yna bryder mawr fod newid hinsawdd yn dechrau newid amseru a’r prosesau ffisiolegol o liwio dail gan fod y broses yn dibynnu cymaint ar dymheredd a thywydd.

Dail yn disgyn

Pan mae dail newydd yn tyfu o gangen, mae haen o gelloedd yn datblygu wrth gychwyn pob storc, o’r enw’r haenen absisaidd. Yn ystod y cyfnod tyfu, mae’r hormon awcsin yn cael ei gynhyrchu sy’n atal dirywiad y ddeilen a’r broses o dorri. Yn ystod yr hydref, mae’r dail yn cynhyrchu llai awcsin, a chaiff ethylen ei gynhyrchu, sydd yn ysgogi estyniad celloedd o fewn yr haenen absisaidd. Mae ensymau hefyd yn cael eu cynhyrchu sydd yn torri lawr cellfuriau’r celloedd o fewn yr haenen absisaidd. Mae hyn yn cynhyrchu toriadau o fewn storc y dail, sydd yn caniatáu i’r ddeilen i wahanu o’r goeden a chwympo i’r llawr. Mae’r proses yma o ymwahanu yn hanfodol i’r goeden gallu goroesi’r gaeaf, gan alluogi i’r goeden i achub ac ailgylchu maetholion yn y dail cyn i dymereddau rhewi’r gaeaf eu lladd. Mae colli dail hefyd yn galluogi’r goeden i gadw lleithder yn ei ganghennau a boncyff, ac mae coed heb dail yn gallu goroesi stormydd y gaeaf yn well oherwydd mae’r gwynt yn gallu chwythu trwy’r canghennau yn hawsach, gan roi llai o straen ar y goeden.

 

Felly, mae cynhyrchiad lliwiau’r hydref yn llawer mwy cymhleth nag yw’n ymddangos, gyda llawer o weithgarwch a phrosesau yn mynd ymlaen yn y cefndir. Y tro nesaf rydych yn mynd am dro hydrefol o dan y canopi coed lliwgar, cymerwch eiliad i werthfawrogi lliwiau melyn-oren y pigmentau carotenoid sydd wedi bod yn cuddio’n dawel o fewn y dail trwy’r haf, gan aros tan hydref er mwyn datgelu eu lliwiau gwirioneddol!

 

Cyfeiriadau

  1. Archetti, M., Döring, T.F., Hagen, S.B., et al. (2008) Unravelling the evolution of autumn colours: an interdisciplinary approach, Cell Press, 24(3), Ar gael: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0169534709000214
  2. Clennett, C. (2017) Why do leaves change colour in autumn, Royal Botanic Gardens Kew, Ar gael: https://www.kew.org/read-and-watch/why-do-leaves-change-colour
  3. Keating, H. (2020) Why do leaves change colour and fall off in autumn?, Woodland Trust, Ar gael: https://www.woodlandtrust.org.uk/blog/2020/10/why-autumn-leaves-change-colour/