20 Hyd 2021

Canllaw Aeron yr Hydref

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae aeron a mwyar yn fwyd hanfodol i adar a chreaduriaid bychain o bob math er mwyn cronni eu hegni ar gyfer misoedd y gaeaf. Mae’r aeron a fwyteir yna’n cael eu gwasgaru ar draws y tir i bob man.

O fwyar duon sgleiniog i rafnwydd neu helyg y môr. Mae llwyni a choed yn rhoi ystôr o fwyd i weddill natur – ac i ninnau!

Ond rhaid i chi fod yn ofalus wrth hel aeron a mwyar. Mae llawer yn wenwynig!

Mae aeron coch llachar yr ywen yn edrych yn flasus ond yn cynnwys hadau gwenwynig iawn. Peidiwch byth â hel unrhyw beth os nad ydych yn siŵr.

Mae Caru Natur Cymru wedi creu’r canllaw defnyddiol hwn i aeron a mwyar mwyaf cyffredin yr hydref.

Gallwch ei lawrlwytho yma: Canllaw Aeron yr Hydref