27 Medi 2021

Tyfwyr Byw’n Dda – Kevin ar Goeden Ffa

Amy Henderson

Rydym yn cwrdd bob dydd Mercher yn y gerddi botaneg i blannu, chwynnu a siarad am yr hyn yr ydym wedi’i wneud.

Ddoe, plannais ffa dringo a gosod cansenni, gyda phedwar bob ochr wedi’u clymu wrth ei gilydd er mwyn i’r planhigion dyfu i fyny.

Rydym yn bwriadu codi’r twnnel polythen cyn hir er mwyn i ni weithio ynddo pan fydd yn bwrw glaw. Bob dydd Mercher rwy’n deffro gan wybod fy mod am fod yn y gerddi gyda phobl ag anafiadau tebyg yr wyf wedi cwrdd â nhw yno; felly, gallaf siarad â nhw am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.

Yn y boreau ni allaf aros i fynd.

Ers i mi fod yno, mae wedi fy helpu trwy wneud i mi deimlo’n llawer gwell na chyn i mi ddechrau mynd.

Nid oeddwn yn gwneud unrhyw waith llaw i helpu fy nghorff i wella, ond ers gwneud y gerddi mae wedi fy helpu tipyn. Mae pawb sydd yno wrth eu bodd yn mynd, a byddem yn aros yno am fwy o amser pe gallwn.