2 Medi 2021

Tyfwyr Byw’n Dda – Amser pizza

Amy Henderson

Amser pizza

Rydyn ni’n tyfu pizza! Y peth cyntaf yn y flwyddyn i gael eu plannu yw gwely o domatos, winwns, brenhinllys (basil), berwr arfog (rocket),ac wrth y planhigion caws mozzarella byffalo sy’n anodd iawn eu tyfu ac I’w gweld yn anaml iawn!

Roedd hi’n braf cael dechrau plannu o’r diwedd ar gyfer yr haf. Fel rheol bydd gennym lawer iawn o blanhigion ifanc, ond mae’r cyfnodau clo wedi oedi pethau ryw ychydig. Fodd bynnag, mae popeth yn bosibl lle mae penderfyniad, ac yn sicr mae digon o benderfyniad yma.

Y newyddion arall yw bod Dave wedi creu gris.

Dechreuwyd storio pren yn ein sied goed newydd. Gallwn weld mefus yn dod a’r cyrens coch a llysiau bwyta, Caiff Carl,  ein pencampwr coginio, y dasg yn fuan o wneud crymbl inni i gyd (er nad yw’n gwybod hynny eto).

Croesawyd aelod newydd i’r grŵp, a dechreuodd Ashley weithio ar unwaith gan fod wedi gwneud tipyn o arddio yn y gorffennol. Mae’r myfyriwr therapydd Tom wedi ymuno â’r grŵp am chwe wythnos, ac wrth gwrs rhoesom y gwaith caled i gyd iddo!