15 Medi 2021

Rhywogaeth o Goeden sydd yn y Tŷ Gwydr Mawr yn Cael ei Defnyddio i Greu Brechlyn COVID-19

Bruce Langridge

Yn adran Chile ein Tŷ Gwydr Mawr, mae yna goeden fach ddi-nod sydd o’r un rhywogaeth â’r goeden a fydd, cyn hir, yn chwarae rhan fawr yn y broses o amddiffyn Ewrop rhag y coronafeirws dros y blynyddoedd nesaf.

Y goeden sebonrisgl, Quillaja saponaria, yw hon, sef coeden fythwyrdd sy’n tyfu’n wyllt yn yr ardal yng nghanol Chile sydd â hinsawdd Môr y Canoldir, o amgylch y brifddinas Santiago a hyd at 200 m i fyny llethrau bryniau cyfagos yr Andes. Byddai pobl frodorol y Mapuche yn malu ei rhisgl i’w ddefnyddio fel sebon. Mae ganddi nodweddion tebyg i sebon sy’n ymdebygu i’r planhigyn cynhenid o Gymru, y sebonllys, neu Saponaria officinalis, y bydd ymwelwyr â thraeth Llansteffan gerllaw yn gyfarwydd â’i weld ar hyd y llwybr o’r meysydd parcio.

O’r 19eg ganrif ymlaen, cafodd coed sebonrisgl gwyllt Chile eu hecsbloetio’n fasnachol, ac fe’u defnyddiwyd i gynhyrchu past dannedd, hylif glanhau lensys, adweithyddion ffotograffig, a chyfryngau ewyn mewn hufen chwipio, diodydd ysgafn, cwrw a hyd yn oed diffoddyddion tân. Yn fwy diweddar, cafodd ei defnyddio fel ychwanegid i atal heintiau gan feirysau a pharasitiaid mewn pysgod, ac i reoli nematodau ar rawnwin – mae hyn yn gwneud synnwyr, oherwydd mae’n debygol bod y cemegyn saponin, sy’n gwneud sebon, wedi esblygu yn y planhigyn i atal plâu sy’n bwyta planhigion.

Mae sebonrisgl wedi bod mor ddefnyddiol fel ei bod yn un o’r coed y caiff y nifer mwyaf ohoni eu plannu yn Chile. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2017, trawyd Chile gan y tanau gwaethaf yn ei hanes, a llosgwyd dros filiwn acer o diriogaeth gorau’r Quillaja.

Gobaith ar gyfer y Byd

Cafodd y potensial i ddefnyddio’r goeden sebonrisgl yn gyffur ategol ar gyfer brechlyn ei ddatblygu cyn dyfodiad pandemig COVID-19, ddechrau 2020. Mae cyffuriau ategol yn gyfansoddion sy’n hybu ymateb imiwn y corff i frechlyn.  Roedd echdynnyn saponin crai o’r goeden sebonrisgl, a wnaed o’r rhisgl mewnol, yn cael ei ddefnyddio mewn brechlynnau milfeddygol ers yr 1950au, ond roedd yn rhy wenwynig i bobl, gan achosi i gelloedd coch y gwaed fyrstio. Ond, oddi ar 2017, mae wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus i greu brechlyn, Shingrix, i wrthsefyll yr eryr mewn pobl.

Ychydig cyn i COVID-19 ledaenu dros y byd, roedd y cwmni fferyllol rhyngwladol, Novovax, wedi bod yn profi Matrix-M, sef cynhwysyn sy’n seiliedig ar saponin (triterpin glycosidau) a echdynnwyd o risgl Quillaja saponaria, yn rhan o’i frechlyn NanoFlu. Roedd hwn nid yn unig yn darparu ymateb gwrthgyrff cryfach na’r brechlynnau ffliw a oedd yn bodoli, roedd hefyd yn cynnig imiwnedd rhag straeniau lluosog o’r ffliw.

Yna, ym mis Gorffennaf 2020, cyrhaeddodd Novovax y tudalennau blaen gydag ymrwymiad gwerth $1.6 biliwn gan ymgyrch Operation Warp Speed yr Arlywydd Donald Trump i ddatblygu brechlyn COVID-19, y dyfarniad mwyaf ar y pryd. Nid yw’r brechlyn wedi cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau o hyd, ond, yn dilyn treialon a oedd yn cynnwys y DU, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo hawl Aelod-wladwriaethau i brynu hyd at 100 miliwn o ddosau o’r brechlyn Novovax, gydag opsiwn i brynu 100 miliwn o ddosau ychwanegol yn ystod 2021, 2022 a 2023.

Coeden Sebonrisgl y Tŷ Gwydr Mawr

Gallwch ddod o hyd i’n coeden Quillaja saponaria 4 m o uchder yn ardal Chile y Tŷ Gwydr Mawr – gallant dyfu i tua 15 m o daldra yn y gwyllt. Gallwch ddefnyddio eich trwyn i ddod o hyd iddi – mae tua metr i ffwrdd o goeden arall, Escallonia illinita, y mae ei dail yn rhyddhau arogl cyri cryf wrth iddynt bydru. Chwiliwch am label gwyrdd gyda’i henw arno. Fel yn achos coed sebonrisgl eraill, mae gan ein coeden ni ddail cwyraidd, hirgrwn, ag ymylon crychiog, danheddog – edrychwch yn ofalus ac fe welwch mai chwarennau bach sy’n secretu dŵr yw’r “dannedd” mewn gwirionedd. Nid yw’r arbenigwyr yn sicr beth yw swyddogaeth y rhain.

Gan ein bod yn ardd fotaneg, rydym yn cadw cofnod o le y daw ein planhigion, felly gwyddom fod y goeden hon, a gasglwyd o’r gwyllt, yn dod o dalaith Bío Bio yn Chile, sef ardal sy’n cynhyrchu llawer o win. Cafodd ei chasglu dros 23 blynedd yn ôl yn ymyl tir pori ar hyd y ffordd o Laguna del Laja i Antuco, a hynny’n rhan o Raglen Gwarchod Coed Conwydd Ryngwladol. Mae Alex Summers, ein Huwch-arddwriaethydd (y Tŷ Gwydr) wedi cymryd toriadau o’n coeden sebonrisgl, ac mae’n eu tyfu yn ein tai gwydr meithrin. Y bwriad yw cynnig y goeden i erddi botaneg eraill yn y dyfodol.

Tybed a yw’r rhisgl o riant ein coeden ni yn cael ei fedi a’i ddefnyddio i wneud y brechlyn Novovax?

Rhyfeddod Botanegol

Enw gwyddonol y goeden sebonrisgl yw Quillaja saponaria. Mae’r enw cyntaf, y genws, yn deillio o’i henw Chileaidd, culay; ystyr yr ail enw, y priod enw, yw tebyg i sebon. Arferid ei hystyried yn rhan o deulu planhigion y Rosaceae, ond cafodd ei symud yn ddiweddar i deulu planhigion newydd, y Quillajacae, sy’n awgrymu ei bod wedi esblygu yn benodol yn Ne America. Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith o warchod coed anarferol fel hon, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar yr adnodd newydd sbon, Global Tree Assessment | Botanic Gardens Conservation International (bgci.org), a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021.