14 Medi 2021

Glöynnod Byw yn ystod y Gaeaf

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Wrth i’r haf dod i ben, mae yna dal i fod digonedd o löynnod byw yma yn yr Ardd, yn cymryd mantais ar y planhigion blodeuol hwyr i ennill digon o egni i allu goroesi’r gaeaf. Ond ydych chi byth wedi gofyn beth mae glöynnod byw yn gwneud yn ystod y gaeaf – i le maent i gyd yn mynd?

Mae glöynnod byw yn ectothermig, felly maent yn dibynnu ar ffynonellau gwres allanol er mwyn twymo eu cyrff i fod yn weithgar. Dyma’r rheswm pam yn aml gwelir glöynnod byw yn torheulo yn yr haul, neu’n crynu eu cyhyrau hedfan er mwyn cynyddu tymheredd y corff i baratoi ar gyfer hedfan. Ar y llaw arall, bydd glöynnod byw yn edrych am gysgod o dan dail ac ar foncyff coed i ymoeri os ydynt yn rhy dwym.

Mewn hinsoddau tymherus, fel yma yng Nghymru, mae’r gaeaf yn achosi problem i löynnod byw gan nad ydynt yn gallu ennill gwres o’r amgylchedd i fod yn weithgar, ac ychydig o fwyd sydd ar gael. Mae rhai rhywogaethau, fel y Fantell Dramor (Vanessa cardui) yn osgoi amodau’r gaeaf yn llwyr, trwy ymfudo yn ôl i hinsoddau twymach pob hydref. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o rywogaethau’r DU yn aros yma, ac yn goroesi gaeafau caled Cymru trwy aeafgysgu. Yn dechnegol, nid ydy pryfed yn gaeafgysgu, ond yn hytrach yn mynd mewn i gyflwr cysgiad heb unrhyw arwydd o fywyd, a gyda phrosesau ffisiolegol arferol newidiedig. Mae hyn yn eu galluogi i fyw am nifer o fisoedd heb fwyd na diod, ac i oroesi tymereddau rhewllyd. 

Mae rhai glöynnod byw yn gaeafgysgu fel wyau, ond mae’r mwyafrif yn treulio’r gaeaf yn eu stadau larfaol (fel lindys), gan gynnwys rhai o’r Brownion, Gwynion a’r Gwibwyr. Mae’r Gwibiwr Bach (Thymelicus sylvestris) yn cael un genhedlaeth yn unig bob blwyddyn, ac yn dodi ei wyau mewn gweiniau o laswellt. Pan mae’r larfae yn dod allan, maent yn adeiladu cocŵn sidan o fewn y wain o wair, ac yn gaeafgysgu o fewn y siambr yma, cyn ymddangos eto’r gwanwyn canlynol er mwyn bwydo a mynd trwy fetamorffosis. Yn debyg, mae Gweirlöyn y Perthi (Pyronia tithonus) hefyd yn gaeafgysgu fel lindys, cyn parhau gyda’u datblygiad y gwanwyn canlynol.

Mae’r Gwynion Mawr a Bach (Pieris brassicae a Pieris rapae) yn gaeafu fel pwpa (crysalis), yn hytrach na fel larfae, gan arafu eu tyfiant a dod allan y gwanwyn dilynol. Yn achos pwpa sy’n gaeafu, mae’r cyfnod yma yn eu cylch bywyd yn gallu para am nifer o fisoedd, tra mae nythaid yr haf ond yn cymryd rhai wythnosau i drawsffurfio mewn i löynnod byw aeddfed. Mae’r Gweirlöyn Brych (Pararge aegeria) yn gallu gaeafgysgu naill ai fel lindys neu fel crysalis, felly mae rhai unigolion yn treulio’r gaeaf fel larfae ac eraill fel pwpa, ac maent yn dod allan ar amseroedd gwahanol yn y gwanwyn. 

Nifer bach o’n rhywogaethau glöyn byw arhosol sy’n treulio’r gaeaf fel oedolion, gan gynnwys Melyn y Rhafnwydd (Gonepteryx rhamni), Trilliw Bach (Aglais urticae), Mantell Paun (Aglais io) a’r Fantell Garpiog (Polygonia c-album). Mae Mentyll Carpiog yn gaeafgysgu mewn coedwigoedd, yn aml mewn coed wag neu bentyrrau cyffion, gyda’u hadenydd wedi plygu i ddangos yr ochr isaf sy’n dywyll ac yn guddliw da yn erbyn ysglyfaethwyr. Mae Trilliwiau Bach a Mentyll Paun yn aml yn cael eu ffeindio yn gaeafu tu mewn i dai a siediau, sy’n darparu amodau oerllyd a sych addas yn ystod haf hwyr a hydref cynnar. Serch hynny, mae hyn yn achosi problemau yn hwyrach yn y flwyddyn pan mae’r gwres canolog yn ein cartrefi yn deffro’r glöynnod byw ynghwsg yn rhy gynnar, pan mae’r tywydd tu allan dal yn oer a does dim ffynonellau neithdar ar gael. Mae newid hinsawdd hefyd yn achosi problemau i löynnod byw sy’n gaeafgysgu, oherwydd mae tymereddau gaeaf a gwanwyn anarferol uchel yn achosi iddynt i ddihuno yn gynamserol cyn bod ddigon o gyflenwad bwyd ar gael er mwyn eu cynnal.

Mae gan Fentyll Tramor (Vanessa cardui) strategaeth hollol wahanol, gan ffafrio ymfudo yn hytrach na gaeafgysgu. Mae’r glöyn byw rhyfeddol yma yn ymfudwr o bell, sy’n cyrraedd y DU pob haf o Ewrop ac Affrica. Mae gwyddonwyr ond yn ddiweddar wedi darganfod eu bod hefyd yn mynd ar daith yn ôl tua’r de pob hydref, gan wneud taith gron 14,500 km o Affrica drofannol i Gylch y Gogledd a nôl! Nid yw’r daith gyfan yn cael ei ymgymryd gan un unigolyn, ond yn hytrach gan gyfres o hyd at chwe chenhedlaeth olynol o ganlyniad i’w system unigryw o atgenhedlu trwy bob tymor.

Mae gan löynnod byw amrywiaeth o strategaethau er mwyn goroesi gaeaf, ond nid yw’n glir pam mae rhai glöynnod byw yn ffafrio rhai dulliau gaeafgysgu neu ymfudo dros eraill. Wrth i’r tywydd dechrau oeri a’r dyddiau yn dod yn fyrrach, bydd llawer o’r glöynnod byw yn paratoi i aeafgysgu, yn obeithiol o oroesi misoedd y gaeaf, yn barod i ddeffro a dychwelyd i’r Ardd ar ddiwrnodau cynnes cyntaf y gwanwyn!

 

Cyfeiriadau

Richard Fox, Butterfly Conservation, Ar Gael: https://butterfly-conservation.org/news-and-blog/where-do-butterflies-and-moths-go-in-winter

Butterfly Conservation, Ar Gael: https://butterfly-conservation.org/news-and-blog/painted-lady-migration-secrets-revealed