13 Medi 2021

Dechrau cyffrous i’n hwb bywyd gwyllt

Tara Crank

Rwy’n ysgrifennu’r erthygl hon gyda holl gyffro ein hwythnosau llwyddiannus cyntaf o archwilio yn y llynnoedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Rydym wedi dod o hyd i lond gwlad o rai creaduriaid rhyfedd a rhyfeddol, a dim ond mewn lleoedd ag ansawdd dŵr rhagorol y gellir dod o hyd i lawer ohonynt. Rydym hyd yn oed wedi torri record gydag un o’r creaduriaid a ddarganfuwyd gennym! 

Pryf brigyn y dŵr (Ranatra linearis) yw’r pryf dŵr mwyaf yn Ewrop, sy’n mesur 4 cm ar hyd ei gorff neu, yn cynnwys ei diwb anadlu ar ei ben ôl, 7cm. Mae’n ysglyfaethu ar benbyliaid a physgod bach mewn pyllau ac mewn llynnoedd â llystyfiant da.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan bryf brigyn, ei brif strategaeth ar gyfer osgoi cael ei fwyta yw tynnu ei goesau i mewn ac aros yn llonydd, gan guddliwio’i hun i ymddangos fel hen ddarn o gorsen. Er y gall ymddangos yn ddiymhongar, y darganfyddiad hwn yw’r un a dorrodd y record. 

Mae pryfed brigyn y dŵr i’w cael yn bennaf yn ardal ganolog y DU a’r cyffiniau. Dyma’r pellaf i’r gorllewin y cofnodwyd i bryf brigyn y dŵr gael ei weld ers y 1970au.

Er 1970, mae mwy na 50 y cant o rywogaethau dŵr croyw a gwlyptir wedi gostwng o ran nifer, ac mae 132 o rywogaethau bellach wedi’u categoreiddio yn rhai sydd dan fygythiad. Mae hyn o ganlyniad i lygredd dŵr (e.e. trwytholchi gwrteithwyr wrth ffermio) yn niweidio ansawdd y cynefinoedd hyn.

Mae pryfed brigyn y dŵr yn dibynnu ar ddŵr o ansawdd da oherwydd ni all eu hysglyfaeth, sef pysgod bach a phenbyliaid, oddef lefelau uchel o lygredd. Dyma pam mae’n hanfodol bod gan arweinwyr ym maes cadwraeth, megis ein Gardd Fotaneg Genedlaethol, ardaloedd fel eu llynnoedd a’u bod yn sicrhau eu bod yn lleoedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt.

Gellir defnyddio presenoldeb y creaduriaid hyn fel arwydd o ddŵr glân ac ecosystem iach, lle daethom o hyd i rai creaduriaid hynod ddiddorol eraill.

Pysgodyn y mae’n well ganddo ddŵr sy’n llifo’n araf gyda digon o lystyfiant yw’r grothell dri phigyn. Gall fyw mewn dŵr croyw, dŵr lled hallt neu ddŵr halen. Mae’n hela penbyliaid a physgod bach, ac mae’n rhan allweddol o ddeiet crëyr glas a glas y dorlan. Mae ganddi’r gallu i godi ei phigynnau ar ei chefn pan fydd dan fygythiad, gan ei gwneud yn anghyfforddus i ysglyfaethwyr ei chael yn eu cegau.

Daliodd rhai o’n harchwilwyr fadfall ddŵr ifanc yn y llynnoedd. Ysgogodd hyn drafodaeth ddiddorol – yn y llun sylwch fod gan y fadfall ddŵr dagellau pluog bob ochr i’w phen. Wrth aeddfedu ddiwedd yr haf, mae madfallod yn colli’r tagellau hyn er mwyn anadlu aer trwy eu hysgyfaint a chyda rhywfaint o ocsigen yn cael ei gyfnewid trwy eu croen llaith hefyd.

Rydym wedi dod o hyd i lond gwlad o sgorpionau dŵr – nid math o sgorpion mewn gwirionedd, mae’r pryf siâp dail hwn yn cuddio mewn planhigion tanddwr ac yn gafael mewn pryfed, penbyliaid a physgod bach â’i goesau blaen tebyg i binsiwrn. Yn yr un modd â phryf brigyn y dŵr, mae ganddo gynffon hir sy’n gweithredu fel tiwb anadlu, yn debyg i snorcel.

Dyma restr o rywogaethau eraill a welsom yn bresennol yn y llynnoedd: lleuen ddŵr, lyngyren ledog, berdysyn dŵr croyw, nymff fursen, nymff gylionyn Mai, gele, larfa gwybed mân, larfa pryfed pric, malwen y dŵr, malwen cyrn, rhiain y dŵr, cychwr cefnwyn mawr, cychwr cefnwyn bach, chwilen blymio, chwyrligwgan.

Tara Crank
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn
Tadorna

Cadwch lygad am fwy o weithgareddau gwych gan yr Hwb Bywyd Gwyllt dan ofal ein ffrindiau yn Tadorna Tours. Mae’r rhain yn cynnwys Taith Gerdded Adar y Gaeaf ddydd Sadwrn 25 Medi a gweithgareddau hanner tymor, rhwng 23-31 Hydref. Os ydych yn adnabod darpar wyliwr adar (6-16 oed), beth am gofrestru ar gyfer ein Diwrnod Gwylwyr Adar Ifanc ddydd Sul 26 Medi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://tadornatours.co.uk/wildlifehubevents/