28 Medi 2021

Blog Prentis: Cynaeafu Hadau Blodau Gwyllt – Rowan Moses

Rowan Moses

Roedd cynaeafu hadau blodau gwyllt o ddolydd naturiol yn fath o brosiect nad oeddwn erioed wedi bod yn rhan ohono o’r blaen, ac roedd yn gyffrous iawn gweld yr holl broses o’r dechrau i’r diwedd.

Roedd yna lawer o ffactorau i’w hystyried. Yn gyntaf, roedd yn dibynnu’n fawr ar y tywydd. Roedd y cynaeafwr yn defnyddio brwsys neilon i ysgubo dros y cae a chasglu’r hadau o’r pennau hadau sych, ac, os oedd hi’n bwrw glaw, byddai’r hadau’n glynu wrth y planhigion! Fodd bynnag, ni allem aros yn rhy hir yn y flwyddyn chwaith, neu byddem yn colli goreuon y cnwd gan y byddai’r hadau mwyaf aeddfed eisoes wedi cwympo. Roeddem yn cadw golwg am y cyfleoedd perffaith trwy gydol y broses gynaeafu, ac yn manteisio arnynt!

Pan fyddem yn cael diwrnod sych, roeddem yn barod i ddechrau cynaeafu.

Roedd y cynaeafwr hadau yn cael ei dynnu y tu ôl i’n cerbyd gan gasglu’r hadau, a oedd yn dal i fod yn gymysg â glaswellt a mân us, i’r hopran. Wedi i ni gasglu’r hadau, byddem yn lledaenu popeth yr oeddem wedi’i gasglu ac yn ei adael i sychu. Roedd gennym fesuryddion lleithder a fyddai’n dweud wrthym beth oedd canran y lleithder yn y mân us. Dyma oedd fy hoff ran; roedd gweld cynnwys y lleithder yn disgyn o ddydd i ddydd wrth i ni gadw llygad arno yn cŵl iawn. Ar un achlysur, dechreuodd cynnwys y lleithder gynyddu’n sydyn! Canfuom fod hynny’n ganlyniad i’r gwynt yn chwythu’r glaw i mewn, ac aethom ati i symud y deunydd a oedd yn sychu, ond roedd yn foment ddryslyd.

 

Y rhan o’r broses a gymerodd y mwyaf o amser, yn bendant, oedd y rhidyllu.

Wedi i’r cymysgedd o laswellt a hadau yr oeddem wedi’i gynaeafu sychu’n iawn, aethom ati i hidlo’r cyfan â llaw, gan fynd trwy’r darnau garw iawn ddwywaith er mwyn tynnu’r hadau i gyd a gwaredu’r mân us. Erbyn i ni weithio ein ffordd trwy’r cyfan, roeddem yn arbenigwyr mewn rhidyllu’n gyflym. Yna, byddai’r sachau yr oeddem wedi’u llenwi â hadau yn cael eu cludo i’r Ganolfan Wyddoniaeth i gael eu pwyso ac yna’u storio mewn man lle y byddent yn cadw’n sych.

Cawsom hadau ar gyfer amrywiaeth o flodau gwyllt gwahanol, ond yr un y cawsom y mwyaf ohono, yn bendant, oedd y gribell felen, Rhinanthus minor. Enwau eraill ar y gribell felen yw dail twrw neu dail siarad, sy’n disgrifio’r ffordd y mae’r hadau’n ratlo wrth i chi ysgwyd y pennau hadau sych. Mae’n blanhigyn lled-barasitig, sy’n golygu ei fod yn cymryd maetholion o wreiddiau glaswellt cyfagos, sy’n gryf ac yn tyfu’n gyflym, yn ogystal â ffotosyntheseiddio fel arfer. Mae’r broses hon o sugno maetholion yn arafu twf y glaswellt, gan ganiatáu i rywogaethau’r dolydd sy’n tyfu’n arafach ffynnu a pheidio â chael eu trechu ar unwaith. Mae’r hadau’n wastad ac yn frown, a byddwn yn dod o hyd iddynt yn fy esgidiau bob dydd ar ôl i mi orffen rhidyllu; felly rwy’n cofio’n iawn sut olwg sydd arnynt.

Cefais foddhad mawr o gymryd rhan yn y gwaith o adfer dolydd lleol mewn ffordd mor ymarferol, a dysgais gymaint gan bawb arall trwy gydol y prosiect. Diolch i bawb!