20 Awst 2021

Hynodion ymlusgol – Welwitschia mirabilis

Alex Summers

Dim ond dwy ddeilen sydd gan y planhigion anarferol hyn, ac maent yn tyfu’n barhaus trwy gydol eu hoes, gan ymlusgo a dolennu ar hyd llawr yr anialwch fel ewinedd bysedd rhyfeddol o hardd sydd wedi tyfu’n wyllt. Maent yn brin ac yn tyfu yn anialwch Namibia ac Angola yn Ne-orllewin Affrica, a bellach mewn rhan wlypach o Gymru hefyd (dan orchudd)!

Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, cafodd Alex Summers, pennaeth newydd y Tŷ Gwydr Mawr, dri swp o hadau gwerthfawr, ac mae un swp wedi egino, sy’n hynod o gyffrous i’n tîm. Gallai’r hadau hyn fod â bywyd hir o’u blaenau gan fod y Welwitschia yn aml yn byw hyd at 600 oed, er y gall gyrraedd y tu hwnt i 1,500 mlwydd oed. Mae’r planhigion hynafol hyn yn gysylltiedig â chonwydd, a phinwydd yw’r perthnasau agosaf iddynt.

Yn yr Ardd rydym yn egino hadau Welwitschia mirabilis o riant blanhigyn a dyfwyd gan Marloth a Herre yn 1926. Hans Herre oedd curadur cyntaf Gardd Fotaneg Stellenbosch yn Ne Affrica, ac yno y mae mam-blanhigyn ein had yn byw. Ysgrifennodd Marloth ‘The Flora of South Africa’, gwaith chwe chyfrol sy’n catalogio’r amrywiaeth syfrdanol o blanhigion yn y wlad hon.

Heuodd tîm y Tŷ Gwydr yr had mewn cymysgedd dwy ran tywod ac un rhan graean, a’i roi ar fainc wedi’i gwresogi i 25°C. Ar ôl saith niwrnod roedd yr eginblanhigion cyntaf wedi egino. Maent bellach wedi cael eu symud i’r Tŷ Gwydr Lluosogi Trofannol, lle cedwir y tymheredd ar 24°C yn ystod y dydd.

Mae’r prif wreiddyn yn debyg i ddarn o edau, felly os bydd yn cael ei ddifrodi bydd y planhigyn yn aml yn marw. Pan fydd yr eginblanhigion ychydig yn fwy sefydledig, byddwn yn eu trosglwyddo i botiau mwy, sef y potiau olaf am eu hoes, a allai fod dros 600 mlynedd!