Rwyf wedi cychwyn cyfres o bodlediadau i helpu’n hymwelwyr a hyd yn oed ni ein hunain i ddeall beth yw gardd ‘fotaneg’.
Yn y rhain byddaf yn siarad â rhywun (staff yn bennaf) am yr holl wahanol fathau o waith sydd mewn gardd fotaneg – gobeithio o arddwriaeth, gwyddoniaeth ac addysg i wirfoddoli, arlwyo, mynediad ac adwerthu. Bydd pob un yn para tua hanner awr
Mae’r bennod 30 munud ddiweddaraf hon o’r Pot Blodyn yn ymwneud â’n Cydlynydd Corfforaethol, Sarah Williams.
Mae Sarah wedi gweithio mewn nifer o adrannau o gwmpas yr Ardd Fotaneg, ac felly mae hi’n westai arbennig i helpu esbonio sut mae gardd fotaneg fodern yn gweithio.