2 Gorff 2021

Pobl Middleton

Helen Keatley

Roedd y flwyddyn 1815 yn un gofiadwy i Brydain. Gyda diwedd Rhyfeloedd Napoleon a datblygiadau’r oes ddiwydiannol newydd, roedd hwn yn gyfnod a fyddai nid yn unig yn trawsnewid cefn gwlad ond hefyd yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl.

Yma yn Neuadd Middleton roedd 1815 hefyd yn nodi carreg filltir.  Cafodd y llynnoedd a’r parcdir a oedd newydd eu creu eu cofnodi am byth gan arlunydd proffesiynol, Thomas Hornor, mewn cyfres o 15 o beintiadau hardd a oedd yn cyfleu harddwch y golygfeydd a’r golygfannau rhyfeddol. Maen nhw hefyd yn rhoi cipolwg ddiddorol inni ar bobl y cyfnod a’u ffordd o fyw, wrth iddyn nhw fwynhau harddwch cefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Ond pwy oedden nhw, y bobl hyn yn narluniau Hornor? Teulu, ffrindiau, gwesteion, staff y Neuadd? Yn eu plith mae gwragedd a dynion mewn gwisgoedd crand; gwas a bachgen ifanc. Ni allwn fod yn sicr pwy oedden nhw, er y gallwn geisio dyfalu…  maen nhw’n debygol iawn o fod yn aelodau o deulu William Paxton yn mwynhau’r parcdir newydd, yn darllen, yn sgwrsio, yn cael picnic. Mae’n debygol y byddai Mr Paxton am ddarlunio nid yn unig y parcdir ar ei orau, ond hefyd ei deulu a’i gydnabod yn mwynhau’r golygfeydd ac yn edmygu gweledigaeth ac uchelgais Paxton.

Mae’r darluniau’n cyfleu’r parcdir ar ei orau, oherwydd naw mlynedd yn ddiweddarach bu farw William Paxton, ac yna dechreuodd y parcdir ddirywio’n raddol.

Mae gwaith Hornor wedi ysbrydoli  grŵp o wirfoddolwyr yn yr Ardd Fotaneg i ail-greu’r cymeriadau a’r gwisgoedd sydd yn y darluniau ar gyfer Arddangosfa haf.  Gwniedyddion amatur yw aelodau’r Grŵp Gwisgoedd Treftadaeth i gyd sy’n frwd iawn am eu gwaith gwnïo – ac am ffasiynau Cyfnod y Rhaglywiaeth. Maen nhw’n hoffi harddwch a symlrwydd gwisgoedd y menywod, a gallant gydymdeimlo lawer yn fwy â’r arddulliau hyn na chyda ffasiynau mwy rhwysgfawr ac anymarferol gwisgoedd crinolin cyfnod Victoria a thimpanau diweddarach y 19edd ganrif. Maen nhw hefyd yn edmygu gwisgoedd y dynion, wedi eu hysbrydoli gan Beau Brummel, ac maent wedi mwynhau ail-greu’r gwisgoedd.

Bydd yr Arddangosfa i’w gweld o fis Mehefin i fis Medi eleni yn Theatr Botanica wrth ymyl y Stablau.