22 Gorff 2021

Mymryn o Oren

Alex Summers

Os ydych wedi bod yn yr Ardd Glogfeini o gwbl yr haf hwn, yna efallai eich bod wedi sylwi ar ein Pabïau Califfornia yn darparu gwledd o liw. Gallwch eu gweld yn y gwely mawr, crwn wrth ymyl mynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr. Y llynedd, bu’n rhaid palu hanner y gwely hwn yn llwyr ac, erbyn y gwanwyn, roedd yn edrych braidd yn noeth. Fodd bynnag, roedd hwn yn gyfle gwych i ni greu sioe go iawn, a phenderfynwyd creu ein mini-arddangosfa ein hunain o flodeuo cydamserol Cymreig! 

Mae arddangosfeydd o flodeuo cydamserol, neu ‘Superblooms’, yn ddigwyddiadau prin sy’n digwydd yn niffeithdiroedd a chymoedd mewndirol Califfornia, ac nid ydynt yn digwydd oni bai fod yr amodau’n berffaith – tua phob 10 mlynedd. Yn ystod yr haf cyn y blodeuo cydamserol, mae’n rhaid cael sychder i ddisbyddu neu ladd glaswelltau goresgynnol Ewropeaidd fal na fyddant yn cystadlu â’r blodau. Yna, rhaid i hyn gael ei ddilyn gan hydref gwlyb a glawiad cyson, ysgafn trwy gydol y gaeaf i helpu’r planhigion ifanc i sefydlu. Dim digon o law, a bydd y planhigion yn sychu ac yn marw. Gormod o law, a bydd yr holl hadau ac eginblanhigion yn cael eu golchi i ffwrdd. 

Cafwyd yr achos diwethaf o flodeuo cydamserol ar raddfa fawr yn 2019. Achosodd hyn gynnwrf ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda llinellau ffôn a gwefannau yn darparu diweddariadau ar y mannau gorau i weld y blodau gwyllt. Heidiodd twristiaid o bob cwr o America, gan orfodi parciau cenedlaethol i gau ac achosi tagfeydd traffig enfawr! Roedd yn bosibl gweld yr arddangosfa o’r gofod hyd yn oed, gyda llethrau mynyddoedd cyfan yn troi’n oren, yn felyn, yn borffor ac yn las. Y pabi Califfornia oren hardd, sef y blodyn taleithiol, sydd fel arfer yn dominyddu’r blodeuo cydamserol yng Nghaliffornia. Dyma’r pabi y byddwch yn ei weld yn gorchuddio ein ‘llethr’ bach ni ger y Tŷ Gwydr Mawr.

Y Pabi Aur

Mae pabi Califfornia (enw Lladin Eschscholzia californica) yn flodyn unflwydd caled y gellir ei dyfu’n weddol rwydd o hadau yma yn y DU. Yn yr haf, pan fo’r pabi’n blodeuo, dim ond mewn heulwen lachar y mae’r blodyn yn agor. Ar ddiwrnodau cymylog, mae’r planhigion yn cadw eu petalau ynghau yn dynn i amddiffyn eu paill a’i gadw’n sych. Mae nifer o lwythi brodorol Califfornia, megis yr Ohlone a’r Cahuilla, yn ei ddefnyddio fel tawelydd i helpu plant a babanod i gysgu. Mae llwythi eraill yn ei ddefnyddio i wella’r ddannodd ac i sychu llaeth y fam, ac mae’r Indiaid Luiseño hyd yn oed wedi cnoi’r blodau gyda gwm fel candi.

I greu ein harddangosfa ni o flodeuo cydamserol, aethom ati i brynu bag mawr o hadau Eschscholzia californica ym mis Mai a’u hau ar wasgar dros sawl ardal o’r Ardd Glogfeini, gan gynnwys y darn mawr o bridd a oedd yn weddill wedi i ni fod yn palu. Yna, nid oedd angen gwneud dim ond tynnu’r chwyn a fyddai’n ymddangos rhwng y planhigion ifanc. Mae pabi Califfornia yn gallu goddef sychder, ac felly anaml y mae angen ei ddyfrio, hyd yn oed pan fo’n ifanc iawn. Bydd Eschscholzia yn hapus i’w hau ei hun flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly gydag ychydig o lwc ni fyddwn fyth yn brin o’r blodau siriol, godidog hyn ymhlith creigiau’r Ardd Glogfeini! 

Mynd i Galiffornia

Mae planhigion brodorol Califfornia yn grŵp diddorol dros ben o blanhigion sydd wedi datblygu ffyrdd anhygoel o ddelio â heriau byw yn yr ecosystem honno – o danau a sychder i ddistrych y don a niwl y môr! I weld rhagor o blanhigion Califfornia, mae gennym ardal wedi’i dynodi i’r rhan hon o’r byd yn ein Tŷ Gwydr Mawr, lle gallwch weld nid yn unig pabïau, ond hefyd Manzanitas (Arctostaphylos spp.), Coed Lelog Califfornia (Ceanothus spp.) a Saets Gwyn (Salvia apiana). Os ydych yn chwilio am ergyd o heulwen yn eich gardd, yn eich bocs ffenestr neu ar eich patio, does dim byd gwell na’ch atgoffa eich hun o Galiffornia gynnes, lachar bob tro y gwelwch Eschscholzia californica yn nodio’i ben yn yr awel.