14 Gorff 2021

Blog Prentis – Rowan Moses

Rowan Moses

Helo, Rewan ydw i! Rydw i yn fy mlwyddyn gyntaf yma yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, yn dod i ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf.

Rwy’n ddeunaw oed a deuthum yn uniongyrchol o’r coleg i’r swydd hon, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi ennill cymaint o hyder a dysgu llawer o sgiliau newydd. Mae rhywbeth newydd i’w ddysgu drwy’r amser, ac mae pawb mor garedig  ac yn gefnogol wrth ddysgu tasgau eu meysydd penodol i fi. O blannu’r berllan geirios gyda’r Tîm Ystadau i fwydo planhigion yn y Tai Gwydr Meithrin, rydw i wedi gallu rhoi cynnig ar bob math o bethau na fyddwn fel arall wedi cael cyfle i’w profi

Mae’r teithiau rydw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw wedi ehangu fy ngolwg ar y pethau y gall gerddi eu cyflawni ym mhob rhan o’r Deyrnas Gyfunol. Ym mis Tachwedd y llynedd cefais wythnos o leoliad gwaith gyda Gerddi Aberglasney, lle cefais brofiad o anghenion gwahanol erddi yn ystod y flwyddyn. Buom hefyd yn y Newt yng Ngwlad yr Haf, lle gwelais y math o arddwriaeth y gall gerddi an-fotaneg gymryd rhan ynddo. Rydw i’n hoffi gwneud cysylltiadau drwy ymwelwyr â gerddi a garddwriaethwyr hefyd, a chlywed am wahanol brofiadau pawb o erddi.

Fy hoff beth ynglŷn â gweithio gyda’r Ardd yw cael profi’r tymhorau i gyd. Ym mis Rhagfyr bûm yn plannu bylbiau hyacinth gyda ThÎm y Rhodfa, ac roedd eu gweld yn eu blodau yn y gwanwyn yn bleser gwir. Wrth weithio yn ystod y gaeaf gwelais yr holl bethau hardd a dymunol mewn natur hyd yn oed yn ystod y cyfnod tawel. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn wrth weld yr holl bethau a ddaw yn yr haf, ac rydw i eisoes wedi bod yn mwynhau fy amser yng nghanol y môr o flodau yn yr Ardd Ddeufur Fewnol.

Mae dechrau gweithio a mynd i goleg yn ystod y pandemig COVID-19 wedi bod yn heriol ar adegau, ond mae pawb wedi gwneud hyn yn brofiad gwirioneddol werthfawr er yr anawsterau sydd wedi wynebu pawb. Ni fyddwn yn newid y flwyddyn ddiwethaf am y byd. Rydw i’n edrych ymlaen at ddod yn ôl at flwyddyn nesaf fy mhrentisiaeth a’r holl bethau sydd ar ôl i’w dysgu!