4 Meh 2021

Wythnos Genedlaethol y Cloddiau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Alex Summers

Ar ddechrau 2021 dechreuodd yr Ardd ar gynllun cyffrous i adfer ac ailsefydlu ein rhwydwaith o gloddiau ar hyd a lled yr ystâd sy’n cael ei galw’n Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Gyda chefnogaeth gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) Llywodraeth Cymru, dechreuwyd y gwaith i nodi nifer o gloddiau hanesyddol y mae angen eu hadfer.  

Mae cloddiau’n hollbwysig yn ein cefn gwlad yn ogystal ag yn ein trefi a’n dinasoedd, fel ‘Coridorau Gwyrdd’ i fywyd gwyllt allu symud a bodoli ochr yn ochr â dynoliaeth brysur. Mae cloddiau’n darparu bwyd, cysgod a llwybr diogel i anifeiliaid, yn ogystal â llu o fuddiannau sy’n llesol i bobl, gan gynnwys fel sgrin weledol, cysgod rhag y gwynt a ffiniau effeithiol i’n caeau.  Gan fod yr hinsawdd yn newid, mae cloddiau’n fodd hefyd i gipio carbon a lleihau llifogydd. Ac yn bwysig iawn, mae’r gwahanol goed a phlanhigion sydd mewn clawdd iach yn ffynhonnell werthfawr o fwyd i bryfed peillio. Mae ein Timau Garddwriaeth a Gwyddoniaeth wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i greu clawdd sy’n darparu ar gyfer ein peillwyr am y tymor hiraf posibl. Mae hynny’n golygu cael cymysgedd amrywiol o goed yn ogystal ag ymyl o dir prysgwydd heb ei reoli, sy’n aml yn cael ei alw’n ‘Ymyl Ddrain’. 

Dewiswyd cyfansoddiad ein clawdd fel hyn: 

  • 25% Crataegus monogyna (Draenen Wen)
  • 25% Prunus spinosa  (Draenen Ddu)
  • 10% Corylus avellana (Collen)
  • 10% Euonymus europaeus (Piswydden)
  • 10% Carpinus betulus (Oestrwydden)
  • 10% Malus sylvestris (Coeden Afal Surion Bach)
  • 2% Fagus sylvatica (Ffawydden)
  • 2% Quercus petraea (Derwen Ddigoes)
  • 2% Acer campestre (Masarnen Fach)
  • 2% Ilex aquifolium (Celynnen)
  • 2% Prunus padus (Ceiriosen yr Adar)

Uchelgais Tîm Ystâd yr Ardd yw ailsefydlu’r rhwydwaith o gloddiau ar draws y warchodfa natur gyfan, a’i reoli gan ddefnyddio technegau traddodiadol lleol i blygu cloddiau. Mae yn yr Ardd doreth o gloddiau, ac eto dros amser mae’r tir ffermio wedi gweld colli rhywfaint o’r rhwydwaith hwn gan droi at ddulliau rhatach o reoli stoc. Yn y mannau hyn caiff miloedd o goed ifanc newydd eu plannu i ail-greu’r hen linellau cloddiau hyn. Hyd yn hyn mae’r Ardd wedi plannu 1.5km o gloddiau newydd yn ystod gaeaf 2021. Dan y prosiect SMS mae gennym 580m ar ôl eto i’w plannu yn yr hydref eleni i gwblhau’r rhan gyntaf hon o’r gwaith adfer cloddiau. Fel rhan o’r gwaith hwn rhaid inni hefyd godi ffensiau newydd er mwyn i’n coed allu ymsefydlu heb dynnu sylw ein Gwartheg Duon Cymreig a’n diadell o ddefaid Balwen!

Mewn rhai mannau lle mae’r hen gloddiau wedi dirywio mor ddrwg fel nad yw’n bosibl eu rheoli’n effeithiol, rhaid inni ail-docio’r llwyni i adfywio’r planhigion a galluogi’r cloddiau i gael eu rheoli’n llwyddiannus drwy eu plygu. Gobeithiwn blygu ein cloddiau ymhen saith mlynedd, pan allwn ddarparu hyfforddiant, gobeithio, yn y grefft hon i barhau gwaith yr Ardd fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth addysgol.

Gan ganolbwyntio ar faterion fel newid yn yr hinsawdd a llygredd, mae ein Tîm Ystâd wedi penderfynu osgoi defnyddio plastig untro yn y gwaith ar ein cloddiau, drwy beidio â phrynu’r defnyddiau gwarchod cryno o blastig sy’n aml yn cael eu defnyddio i annog coed ifanc i sefydlu’n gyflym.  Gobeithiwn y bydd ein gwaith yn yr Ardd yn enghraifft o warchod cloddiau’n dda, ynghyd â thechnegau traddodiadol eraill o reoli cefn gwald, a bod yn llesol i Sir Gaerfyrddin, Cymru a thu hwnt am genedlaethau i’r dyfodol!

 

Thomas Campbell

Mis Mehefin 2021