23 Meh 2021

Gwerthfawrogi Pryfed

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

I mi, mae pob wythnos yn Wythnos y Pryfed. Rwyf wrth fy modd â phryfed – cewch hyd i mi’n aml yn cerdded o amgylch yr Ardd yn un o fy nghrysau T thema pryfed, a’m hwyneb mewn blodyn yn chwilio am bryf diddorol! A minnau mor frwdfrydig dros bryfed, rwy’n cael fy siomi braidd fod eu pwysigrwydd yn cael ei anwybyddu. Gall rhywogaethau gwahanol o bryfed fod â rolau gwahanol mewn ecosystemau, ac maent yn hanfodol i oroesiad llawer o rywogaethau eraill.

Peillio

Mae peillio yn un rôl bwysig iawn y mae pryfed yn ei chyflawni, rôl sy’n hanfodol i atgenhedlu ac, felly, i oroesiad llawer o rywogaethau o blanhigion gwyllt, yn ogystal â chnydau megis tomatos a rêp had olew. Mae pryfed yn peillio trwy drosglwyddo paill o anther blodyn gwrywaidd i stigma blodyn benywaidd wrth iddynt chwilota am neithdar a phaill. Mae paill yn glynu at eu cyrff blewog, sy’n gwneud y broses drosglwyddo yn fwy effeithiol. Dyna pam y mae cacwn ffluwchiog yn beillwyr mor effeithiol!

Yn ogystal â hyn, pan fydd pobl yn meddwl am beillwyr, mae llawer yn tueddu i feddwl am wenyn. Fodd bynnag, mae yna lawer o rywogaethau eraill o bryfed yn cyflawni’r rôl hon, megis chwilod, gwenyn meirch, gloÿnnod byw, gwyfynod a phryfed. Mae Steven Falk wedi amcangyfrif bod yna mewn gwirionedd tua 6,000 o rywogaethau o beillwyr yn y DU, a dim ond rhyw 270 o’r rhain sy’n wenyn! Un o fy hoff beillwyr yw’r chwilen gwenyn ddel (Trichius fasciatus), sydd i’w chael yn aml ar flodau megis llygad-llo mawr a blodau llwyni mwyar duon. Mae wedi cael yr enw hwn am ei bod yn dynwared ymddangosiad gwenyn, ac felly’n enghraifft wych o ddynwarediad Batesaidd, sef pan fydd creadur yn mabwysiadu ymddangosiad creadur mwy niweidiol er mwyn osgoi ysglyfaethwyr. Mae’r chwilen gwenyn hyd yn oed yn ffluwchiog megis gwenynen, sy’n golygu ei bod yn gallu casglu llawer o baill ar ei chorff!

Glanhau

Mae chwilod a phryfed yn gyfrifol am helpu i gael gwared ar wastraff o’r Ddaear, megis ysgarthion a defnyddiau organig sy’n pydru. Er enghraifft, mae chwilen y dom (Geotrupes sp.) yn helpu i ddadelfennu ysgarthion a adawyd gan anifeiliaid megis defaid a cheirw. Mae’n gwneud hyn trwy ddodwy wyau mewn twll o dan yr ysgarthion, ac yna, pan fydd y larfâu’n dod allan o’r wyau, byddant yn bwydo ar yr ysgarthion, gan helpu i’w clirio. Mae pryfed megis pryfed melyn y dom yn dodwy eu hwyau mewn ysgarthion hefyd, a’u larfâu’n cyflawni rôl debyg i rôl larfâu chwilod y dom. Mae yna hefyd chwilod o’r enw chwilod burgyn, ac mae’r rhain yn dadelfennu creaduriaid marw megis adar a mamaliaid bach. Enghraifft o’r chwilod hyn yw’r chwilen gladdu ddu (Nicrophorus humator), sy’n cloddio o dan greaduriaid marw, gan wneud iddynt suddo’n raddol i’r ddaear, lle byddant yn dadelfennu. O ganlyniad, mae gennym chwilod a phryfed i ddiolch iddynt am gael gwared ar y stwff drewllyd!

Rheoli Plâu

Mae pryfed hefyd yn rhagorol am reoli plâu! Er enghraifft, mae larfâu pryfed hofran, larfâu’r siderog a buchod coch cwta yn ysglyfaethwyr y pryfed gleision felltith hynny sydd bob amser fel pe baent yn anelu’n syth am eich rhosod gorau. Mae gwenyn meirch hefyd yn ysglyfaethwyr llawer o rywogaethau o bryfed, megis lleuen y coed, ac felly’n atal y niferoedd rhag cynyddu gormod. Os byddwch yn denu’r rhywogaethau hyn i’ch gardd, er enghraifft trwy blannu mwy o blanhigion sy’n denu pryfed a chreu pentyrrau o goed ar gyfer pryfed, dylai eich planhigion osgoi cael eu difrodi cymaint gan bryfed, ac ni ddylai fod angen i chi ddefnyddio plaladdwyr, sy’n niweidiol i lawer o greaduriaid.

Bwydo

Mae rhai creaduriaid, megis adar a draenogod, yn dibynnu ar bryfed ar gyfer eu prif ffynhonnell fwyd. Er enghraifft, mae’r titw tomos las yn bwyta lindys, yn ogystal â’u bwydo i’w gywion. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod nythod yn dechrau mynd yn brin o fwyd am fod nifer y lindys yn gostwng a hefyd yn ymddangos ar adeg wahanol i gyfnod nythu’r titw tomos las (Pollock et al., 2017). Mae hyn yn dangos yn go iawn pa mor bwysig yw pryfed i oroesiad creaduriaid eraill!

Y rheswm pam y mae ar bryfed angen ein help, a’r hyn y gallwch ei wneud i’w helpu yn eich bro eich hun

Mae nifer y pryfed yn gostwng oherwydd colli cynefinoedd, y defnydd o blaladdwyr a’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, gallwch wneud gwahaniaeth trwy gynnal pryfed yn eich ardal leol. Dyma rai ffyrdd gwahanol y gallwch fynd ati i wneud hyn:

  • Plannu mwy o flodau sy’n denu pryfed yn eich gardd
  • Ychwanegu dôl fechan at eich gardd
  • Creu pentwr o goed i bryfed fyw a gaeafgysgu ynddo
  • Prynu neu wneud gwesty gwenyn unig. Gallwch ddysgu sut i wneud un ym mlog Abigail Lowe: https://botanicgarden.wales/2018/07/all-about-bee-hotels-and-how-to-make-your-own/
  • Creu pwll bywyd gwyllt, a fydd yn darparu cynefin ar gyfer gweision y neidr, mursennod a larfâu pryfed hofran
  • Rhoi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr
  • Torri eich lawnt mewn patrwm mosaig – bydd glaswellt byr yn darparu ar gyfer anghenion gwenyn turio, glaswellt hirach yn sicrhau lle i bryfed guddio, ac unrhyw flodau gwyllt yn darparu porthiant i bryfed
  • Gosod dysgl fas o ddŵr wedi’i llenwi â cherrig y tu allan, i bryfed yfed ohoni
  • Cyfrannu at elusen pryfed megis Buglife neu’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn
  • Rhannu’r hyn yr ydych yn ei wybod am bryfed â’ch ffrindiau a’ch teulu
  • Cyflwyno eich cofnodion pryfed i iRecord

Cyfeiriadau

Pollock, C.J., Capilla-Lasheras, P., McGill, R. A.  R., Helm, B. a Dominoni, D. M. (2017). Integrated behavioural and stable isotope data reveal altered diet linked to low breeding success in urban-dwelling blue-tits. Scientific Reports, 7. [Ar-lein]. Ar gael yma: https://www.nature.com/articles/s41598-017-04575-y.pdf [Cyrchwyd 18 Mehefin 2021].