9 Meh 2021

Diweddariad ar yr Ardd Wenyn: Gwenyn Hapus!

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae ychydig bach o heulwen yn mynd ymhell

Mae’r gwenyn nawr yn mwynhau’r tywydd cynhesach dros yr wythnos diwethaf hon.

Rydyn ni’n falch cael dweud bod y cychod cnewyllyn, a gafodd eu rhannu oddi wrth nythfeydd cryf yn gynharach yn y tymor, nawr bron i gyd wedi creu breninesau, ac mae’r breninesau newydd i’w gweld wedi cymharu yn ystod yr wythnos diwethaf ac wedi dechrau dodwy eu hwyau.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod o hyd i’r breninesau newydd y tro nesaf i’w marcio’n wyn, sef lliw eleni.

Wedyn byddwn yn dechrau gwneud penderfyniadau am y breninesau hynaf, a fyddwn am gael rhai newydd ynteu adael i’r gwenyn benderfynu a gadael iddyn nhw greu celloedd breninesau i ddisodli’r hen frenhines pan fyddan nhw’n barod. O, yr holl benderfyniadau!

Rydyn ni’n dal i archwilio’r nythfeydd am widdon Varroa, ac rydyn ni wedi gweld ambell un ymhlith y gwenyn segur.  I fod yn sicr, penderfynwyd dechrau trin pob gwenynfa ag un driniaeth o asid fformig i ddileu’r gwiddon a gobeithio eu hatal rhag cynyddu yn y nythfeydd.  Er ein holl ymdrechion i fonitro a rheoli drwy’r tymor, rydyn ni’n cael anhawster i ddileu’r pla styfnig hwn, ond os parhawn i leihau’r niferoedd, gobeithio na fydd y gwenyn yn dioddef yn ormodol.

Mae rhai o’r nythfeydd yn dal ychydig yn brin o storfeydd, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd y tywydd cynnes yn parhau ac y gall y gwenyn gael neithdar oddi ar y coed castan a sycamor. Mae nifer o blanhigion fel pe baen nhw’n dal yn ôl eleni i aros am y tywydd cynhesach, felly gobeithio y bydd y rheiny’n bywiocau ac yn cynhyrchu llawer o neithdar i’r gwenyn a’r pryfed, fel na chawn “Fwlch Mehefin” eleni.

Gobeithio y bydd y drain yn dod yn gynnar ac yn rhoi cnwd da o fêl i’r gwenyn, ac ychydig hefyd i ni i’w gymryd a’i rannu gyda’r ymwelwyr yn y misoedd i ddod!

Lynda

Hyfforddwraig Ecosystemau a Gwenynwraig