7 Meh 2021

Creu Cylch Coed Yw Newydd

Alex Summers

Mae ein Tîm Ystâd wedi bod yn brysur tu hwnt! Yn ogystal â diweddaru ein Perllan Coed Ceirios Sakura a pharatoi’r Prosiect Adnewyddu’r Llynnoedd, maen nhw hefyd wedi llwyddo i greu Cylch Coed Yw newydd sbon yn ein Coedfa.

Adnewyddu Cylch Coed Yw bach iawn a oedd edi ei blannu yn 2019 oedd y gwaith, a chafodd ei ysbrydoli gan ddarganfyddiadau’n ddiweddar am y cysylltiad rhwng Gorllewin Cymru a’r cerrig glas sydd yng Nghôr y Cewri. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, felly, yn falch cael dadorchuddio ein Cylch Coed Yw newydd a gwell. (Mae yn yr Ardd hefyd rai Cerrig Glas y Preseli yr ochr draw i’r Llyn Uchaf o’r Cylch Coed Yw).

Byddai coed yw, yn ogystal â cherrig, yn cael eu defnyddio’n aml gan gymunedau Oes y Cerrig i greu cylchoedd, o bosibl ar gyfer cynulliadau, er nad oes neb yn gwybod beth oedd yr union reswm dros y cylchoedd hyn. Oherwydd eu gallu i atgynhyrchu, mae Taxus baccata (Coed Yw Cyffredin) wedi hen gael eu dathlu oherwydd eu bod yn byw mor hir. O’r herwydd mae symbolaeth wedi datblygu ar gyfer bywyd a marwolaeth, a dyna pam y gwelwch chi goed yw mewn mynwentydd a safleoedd eraill o’r cyfnod cyn Cristnogaeth. Maen nhw nawr yn rhan allweddol o hanes diwylliannol Cymru a Phrydain. A phwy a ŵyr, efallai y bydd y coed hyn yn byw dros 2,000 o flynyddoedd!

Aeth ein Tîm Ystâd ynghyd â’r dasg anferth o glirio ardal o dyweirch 12 metr ar draws ar gyfer y cylch 60 metr hwn, a gwneud hynny â llaw er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i’n Coed Yw. Mae’r tyweirch a godwyd wedi eu gosod wyneb i waered o gwmpas ymyl y cylch i greu twmpathau isel i roi ychydig gysgod i’r coed ifanc rhag y gwynt. Bydd hadau blodau gwylltion yn cael eu hau ar y twmpathau hyn er lles y peillwyr yn yr Ardd ac i greu ymyl o flodau i’ch croesawu i’r cylch.

Yn ein Cylch Coed Yw mae 19 o Goed Yw (Taxus baccata), sef 14 o goed yn y cylch allanol ac un yn y canol a phedair ym mhwyntiau’r cwmpawd gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Ar ôl codi’r tyweirch, cludwyd sawl llwyth tractor o bridd uchaf i lawr i lenwi’r pant, a rhoi’r un faint o domwellt rhisgl coed ar ben hwnnw. Dylai’r tomwellt hwn rwystro porfeydd rhag aildyfu gan adael i’r coed ymsefydlu heb gystadleuaeth (ond rydym yn dychmygu y bydd angen chwynnu ar adegau!)

Plannwyd y Coed Yw yn y diwedd ddydd Iau 4 Mawrth 2021. Ychwanegwyd ychydig domwellt ym mhob twll, yn cynnwys dim ond Taxus baccata a oedd wedi ei gynhyrchu wrth docio Coeden Yw arall yn yr Ardd yn gynharach. Dylai’r tomwellt Coed Yw hwn roi hwb i’r coed ifanc gyda’r union faetholion sy’n ofynnol i goed dyfu’n iach.

Fe sylwch fod ffens isel o rwyll wifrog o gwmpas y cylch i atal y boblogaeth o Fwch Danas sy’n byw yma rhag dod i ymchwilio ymhlith ein coed newydd (gan obeithio na fyddant yn neidio drosti!)  Er bod Coed Yw ar y cyfan yn wenwynig (mae’r nodwyddau, y pren a’r hadau i gyd yn wenwynig i’r rhan fwyaf o anifeiliaid), bydd ceirw’n blewynna ar y nodwyddau yn y gaeaf pan nad oes fawr arall ar gael i’w fwyta. Gall ceirw achosi niwed hefyd drwy rwbio’u cyrn yn erbyn y coed, felly, nes bydd y Coed Yw ychydig yn fwy, bydd angen inni eu cadw’n ddiogel.

Fe ddowch o hyd i’r Cylch Coed Yw ddim ymhell o’r fynedfa i’r Goedfa wrth ymyl ein hardal Awstralasia. Dewch i gael cip ac i siarad â’r Tîm Ystâd: mae’n bosibl y byddan nhw’n dyfrhau’r coed yn yr haf!