25 Mai 2021

Rhyfeddodau bywyd gwyllt yn y goedwig ac wrth y dŵr

Dan Rouse

Pan ewch i mewn i’r Ardd Fotaneg, mae lliwiau hardd y planhigion yn eich syfrdanu, a bwrlwm y gwenyn yn amlwg iawn. Ond mae yna gymaint mwy o fywyd gwyllt i’w weld trwy ymchwilio’n ddyfnach i’r ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwylio ddigon. 

Gan ddechrau yn y Bloc Stablau – efallai nad yw hon yn ymddangos yn ardal hollbwysig i fywyd gwyllt, ond byddech yn synnu o weld yr hyn sy’n llechu rownd pob cornel. Mae’r Ardd Furiog Ddwbl yn llawn bywyd. Mae yno fwyeilch, robinod coch a llwydiaid y gwrych yn chwilota ymysg y dail a’r llwyni am bryfed i’w bwyta.

Gyda’r nos ac yn ystod y nos, mae’r ardal hon yn un wych ar gyfer tylluanod brych sy’n hela mamaliaid ac adar bach. Mae hyn yn amlwg o edrych ar y pelenni y mae’r tylluanod wedi’u gadael ar eu hôl. O amgylch y Bloc Stablau ei hun mae’r planhigion yn fyw â chacwn cynffon lwydfelen, mentyll paun ac ieir bach amryliw.

Yr hyn sy’n rhagorol ynghylch yr Ardd yw’r nifer enfawr o beillwyr sy’n cael eu denu at yr amrywiaeth o blanhigion, ac mae hyn yn bendant yn rhywbeth i gadw eich llygaid ar agor amdano pan fyddwch yn ymweld a mynd am dro oddi amgylch.

‘Nawr, mae ardal Llyn Mawr a Llyn Felin Gat ger Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, ardal sydd newydd gael ei hadfer a’i hagor yn ddiweddar, yn rhywbeth i ryfeddu ati.

Mae’r bywyd gwyllt sydd yno yn aruthrol! Byddwch yn dod i’r lleoliad hwn o Goed y Tylwyth Teg, ac mae’n lle gwych i chwilio am ditw’r helyg a thitw’r wern. Mae’n hawdd adnabod galwad yr adar hyn, ond gallant fod yn bethau bach go anodd eu gweld.

Cadwch eich llygaid ar agor hefyd am frithion arian. Mae ganddynt liw hynod o gyfoethog ac iddo sglein bron yn ariannaidd. Mae’r fan hon hefyd yn lle gwych i chwilio am gaws llyffant y tylwyth teg, neu ffwng amanita’r gwybed yn ôl yr enw arall sydd iddo, ac yn swatio wrth draed y coed gallwch weld cwpanau Robin goch.

Ymhellach i mewn i’r ardal goediog o amgylch y llyn newydd, Llyn Mawr, mae gweilch glas i’w gweld yn saethu allan o’r coed yn aml wrth iddynt chwilio am ysglyfaeth; mae’r titw tomos las, y titw mawr, y titw cynffon-hir a’r dryw eurben i gyd yn gystadleuwyr teilwng, a gellir eu gweld a’u clywed yn gyson o amgylch y llyn.

Ar ymyl dŵr y llyn ei hun gellir gweld hwyaid copog, corhwyaid, hwyaid gwyllt a chrehyrod gleision, tra bo’r cyrs a’r brwyn sy’n ffrâm i’r llyn yn gynefinoedd perffaith ar gyfer gweision neidr a mursennod sy’n dod o’u cocynau.

Rydym wedi gweld ymerawdwyr yn patrolio’r ymylon, ac mae mursennod glas cyffredin, mursennod tinlas cyffredin a mursennod glas asur hefyd yn gyffredin yma, ynghyd â rhywogaethau mwy megis gweision neidr mudol.  

Mae hon yn daith gerdded wirioneddol hyfryd, ac mae’r ardal goediog sy’n dod i’r golwg wrth i chi agosáu at y Tŷ Gwydr Mawr o’ch taith gerdded o amgylch Llyn Mawr yn ardal ragorol ar gyfer craffu trwy’r coed.

Efallai nad yw’n edrych yn addawol iawn, ond mae’r ardal goediog yn gynefin cysgodi a bwydo perffaith i rywogaethau sy’n dibynnu ar bryfed ar gyfer eu bwyd.

Chwiliwch am y siff-siaff, y gwybedog mannog, telor yr ardd a’r gwybedog brith – mae’r rhain i gyd yn golfanod bach sy’n gwibio o amgylch y coed yn aml, yn chwilio am bryfed i’w dal.

A pheidiwch ag anghofio edrych yn ddyfal o amgylch y caeau am wenoliaid a gwenoliaid duon, a hefyd adar ysglyfaethus megis y cudyll coch, y barcud coch a’r bwncath. 


Yn dymuno dysgu mwy am y bywyd gwyllt yn yr Ardd, a sut i adnabod amrywiaeth o adar, gloÿnnod byw a gweision neidr? Mae Teithiau Tadorna wedi ymuno â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i ddarparu teithiau cerdded dan arweiniad arbenigwyr yn ystod pob tymor, a fydd yn dangos i chi amrywiaeth o fywyd gwyllt.

£30 yr un, yn dechrau am 10.30am ac yn gorffen tua 4pm.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, gwelwch ein gwefan os gwelwch yn dda.