10 Mai 2021

Rheolau Diwrnodau i Chi a’r Ci

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Gweler isod y rhestr o reolau ar gyfer y dyddiau dynodedig pan all cŵn ddod i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol:

  • Rhaid i gŵn fod ar dennyn bob amser ac o dan reolaeth eu perchnogion. Ni chaniateir tenynnau estynadwy.
  • Er mwyn diogelu ein casgliadau planhigion, cadwch eich cŵn ar y llwybr neu ar fannau glaswelltog. Ni chaniateir i gŵn gerdded ar welyau blodau na’r borderi, gan y gallent niweidio ein planhigion prin.
  • Am resymau diogelwch, ni chaniateir cŵn yn:
    • Y Ty Gwydr Mawr
    • Y Ty Trofannol
    • Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
    • Maes Chwarae Plant
  • Byddwch yn berchennog ci cyfrifol, glanhewch ar ôl eich anifail a chael gwared arno yn y biniau a ddarperir.
  • Peidiwch â gadael cŵn ar eu pennau eu hunain.
  • Ni chaniateir cŵn ffyrnig yn yr Ardd. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu symud allan, unrhyw gi a ddyfernir yn beryglus i ymwelwyr neu gŵn eraill.
  • Peidiwch â dod â’ch Ci i’r Ardd os yn ‘cwna’.
  • Mae croeso i Gŵn Tywys a Chŵn Cymorth

Yn fwyaf pwysig, gofynnwn i chi ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth ymwneud â’ch ci. Bydd hyn yn sicrhau ymweliad pleserus a diogel i chi, eich anifail a’n hymwelwyr. Diolch.