14 Mai 2021

Mai yn ei Ogoniant yn y Dirwedd wedi’i Hadfer

Angharad Phillips

Mis Mai yw un o fy hoff fisoedd yn y flwyddyn ac mae’r gwanwyn yn sicr wedi cyrraedd, ac mae dyddiau hir, tywyll y gaeaf nawr fel atgof pell. Mae byd natur yn fwrlwm o weithgarwch, yr adar yn canu’n ddi-baid a’r blodau a’r coed yn blaguro. Mae’r gwenoliaid wedi dychwelyd i’r Ardd ar ôl eu siwrnai faith, ac mae’n bleser gweld eu campau yn yr awyr.

Ers pedair blynedd rwyf wedi bod yn gweithio ar y prosiect adfer sydd wedi ailsefydlu  tirwedd Ddarluniadol o Gyfnod y Rhaglywiaeth o 2 lyn a gorlifannau a chreu argae 350 metr o hyd. Caiff yr holl nodweddion hyn eu cysylltu gan rwydwaith o lwybrau a chwe phont newydd. Yn olaf ond nid y lleiaf mae gennym hefyd raeadr sydd wedi ei hadfer yn llwyr, ac uwchben y nodwedd eiconig honno mae pont lle gallwch deimlo grym rhyfeddol y dŵr wrth eich traed ar ei siwrnai i lawr i’r dyffryn islaw. Mae’r adeiladau treftadaeth hyn i gyd wedi’u gosod mewn dyffryn coediog arbennig lle mae’r dreftadaeth naturiol yn gwneud yr hyn sydd orau ganddi, sef eich gorfodi i werthfawrogi’r harddwch o’ch cwmpas.

Cerddwch i lawr drwy Goed y Tylwyth Teg, lle mae tref fawr o Dylwyth Teg wedi tyfu, a dilynwch y llwybr troellog drwy lannerch goediog. Paratowch ar gyfer eich cipolwg gyntaf o’r Llyn Mawr, y mwyaf o’r gadwyn o lynnoedd yn yr Ardd.  Byddwch yn mynd heibio un o fy hoff goed hynafol, sef ffawydden odidog sydd â’i changhennau bron yn cyffwrdd â’r dŵr islaw.

Y nesaf ar eich taith gwelwch y gyntaf o’r pontydd newydd hardd, Pont y Corn, ac yma gallwch groesi’r bont a cherdded ar hyd yr argae 350 metr o hyd a dilyn llwybr byrrach yn ôl dros yr ail bont ddur, a aiff â chi’n ôl i’r Waun Las. Sylwch ar y gwenoliaid wrth iddyn nhw wibio dros wyneb y dŵr i chwilio am fwyd. Wrth Bont y Corn hefyd gallwch fynd yn eich blaen gan fod y llwybr yn mynd â chi i mewn i goedlan, a’r adeg hon o’r flwyddyn mae clychau’r gog yn eu gogoniant.

Aiff y llwybr hwn at Lyn Felin Gât, a bydd y bont wledig sydd wedi’i chreu â llaw yn tynnu eich sylw. Ewch ymlaen ar y llwybr hwn at y rhaeadr, a byddwch yn mynd heibio carpedi anferth o glychau’r gog. Byddwch yn rhyfeddu at yr olygfa a’r arogl. Ar y llwybr hwn hefyd fe welwch y gorlifan grisiog ffurfiol, ac ar ôl glaw trwm mae’r dŵr yn tasgu’n ddramatig ar ei daith i Lyn Felin Gât. Yma cewch eich cipolwg gyntaf ar y rhaeadr hefyd!

Mis Mai yw’r ‘Mis Cerdded Cenedlaethol’ ac mae milltiroedd o lwybrau o gwmpas y 568 erw yn yr Ardd ichi eu harchwilio. Dewch i ddarganfod ein tirwedd ryfeddol: ni chewch eich siomi!

https://www.youtube.com/watch?v=grMs5dxiyBg