29 Mai 2021

Diweddariad ar yr Ardd Wenyn: Beth Ddigwyddodd i’r Gwanwyn?

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Fel nifer o wenynwyr o gwmpas y wlad, mae’r gwenynwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi sylwi bod y gwenyn yn cael anhawster yn y gwanwyn eleni. Cyn gynted ag y bydd y tywydd yn clirio, bydd y gwenyn allan yn fforio, ond wedyn daw’r tywydd gwael a’r gwenyn yn gaeth dan do ac yn defnyddio’u storfeydd. Dydy’r heidiau ddim yn cynyddu cystal ag y byddem yn dymuno, ac mae hyd yn oed rhai o’r heidiau cychwynnol a wahanwyd oddi wrth ein nythfeydd cryfaf heb ddim arwyddion fod y breninesau’n paru gan nad oes wyau na larfa i’w gweld.

Rydyn ni’n gorfod addasu ein harchwiliad o’r gwenynfeydd i gyd-fynd â rhagolygon y tywydd, ac archwilio pan fydd cyfle.

Ond mae rhai gwenyn yn ein drysu yr wythnos hon. Wrth inni wneud ein ffordd o gwmpas yn archwilio cychod yn y brif wenynfa, daeth haid allan o gwch roeddem wedi’i rannu gynt a disgyn mewn clawdd drysu y tu allan i’r Ardd Wenyn. Defnyddiwyd cawnen i gasglu’r haid, wedi’i gosod dros y clwstwr, a defnyddiwyd mwg i’w gyrru i mewn i’r fasged.

Gadawyd i’r rhain dawelu a pharatowyd cwch yn y wenynfa i dderbyn yr haid. Pan aethom i’w nôl, roedd y gwenyn yn gadael y gawnen ac yn hedfan nôl at du blaen y cwch gwreiddiol roeddent wedi dod ohono! Roedd gwenyn wrth y fynedfa’n curo’u hadenydd i ddangos i’r lleill ble roedd y fynedfa, ac ymhen deng munud roddent i gyd nôl yn eu cwch.

Ninnau wedyn yn dyfalu ai hebrwng y forwyn frenhines oedden nhw ar ei thaith gyntaf, ynte’n ymarfer ar gyfer y digwyddiad go iawn pan fydd y tywydd yn gwella. Cafodd y cwch ei archwilio, a doedd dim arwydd fod yno nifer o freninesau, felly, gobeithio mai dim ond ymarfer eu greddf i heidio roedden nhw. Mae’n bosibl hefyd mai tarfu ar y cwch oedd wedi’u hysgogi i ddod allan… o, na allai gwenyn siarad!

Gwnaed yr archwiliad rheolaidd am afiechyd, a sylwyd bod yno widdon Varroa yn rhai o gelloedd y gwenyn segur. Rydym wedi gosod ffrâm isel yn y siambr fagu er mwyn i’r gwenyn dynnu celloedd segur. Pan fydd y rhain wedi sefydlu ac yna’u selio, byddwn yn didoli’r celloedd hynny i leihau’r llwyth Varroa yn y cwch. Byddwn yn parhau i gadw llygad ar y cychod i weld a oes gwiddon yno, ac os bydd y llwyth yn mynd yn ormod, efallai y bydd rhaid inni eu trin.

Hyd yn hyn eleni mae gwenynwyr yn gwylio’r tywydd yn fwy nag erioed! Dim ond gobeithio y gallwn i gyd gadw’r gwenyn i fynd nes i’r tywydd wella.

Gadewch inni orffen ar nodyn llawen a gobeithio am haf godidog gyda llawer o gyfleoedd i’r gwenyn fforio! Maen nhw’n dweud bod y jetlif yn anelu tua’r gogledd ymhen ychydig wythnosau, ac felly fe allem gael haf wedi’r cyfan. Wyddoch chi ddim, efallai y cawn ni gynhaeaf o fêl hyd yn oed gyda lwc.

Lynda

Hyfforddwraig Ecosystemau a Gwenynwraig