18 Mai 2021

Blog Prentis – Glenn Pugh

Glenn Pugh

Mae fy amser yn brentis yn yr Ardd wedi bod yn siwrnai amrywiol, buddiol a boddhaus, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdani.

Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau, gan gynnwys adfer Gardd Goffa Aber-fan, a oedd yn fraint cymryd rhan ynddo, casglu hadau gwylltion yn Nôl Llwydcoed, a phlannu coed ar yr ystâd ehangach yn yr Ardd Fotaneg.

Cafwyd llawer her ar y ffordd. Mae nifer o’r tasgau’n galed yn gorfforol, ac roedd llawer iawn o gymalau poenus ar ddiwedd y dydd!  Fodd bynnag, mae’r canlyniad yn y pen draw bob amser yn werth y gwaith caled.  Roedd y pandemig Covid 19 yn dod â heriau ychwanegol yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn rhyngweithio gyda’n gilydd, yn ogystal â gorfod newid o’r ystafell ddosbarth i ddarlithiau ar-lein i astudio’r cymwysterau RHS Lefel 2. Mae dysgu addasu yn sgil newydd rydym i gyd wedi ei dysgu, mi gredaf, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!

Mae’r Ardd yn lle mor wych i weithio a dysgu. Gan symud bob dau fis i weithio mewn meysydd gwahanol, rwy’n hoffi mor ddeinamig a datblygol yw hi. Drwy genhadaeth yr Ardd rwyf wedi gweld yn uniongyrchol mor rhyfeddol yw ein planhigion a sut mae’n chwarae rhan mor bwysig yn amgylcheddol, o ran bioamrywiaeth, ein hiechyd a’n lles yn ogystal â pham mae cadwraeth mor hanfodol bwysig.

Mae gan y tîm garddwriaeth yn yr Ardd gyfoeth o wybodaeth, ac wrth iddyn nhw rannu hynny a chefnogi rwy’n teimlo fy mod yn fwy hyderus yn broffesiynol ac ar lefel bersonol. Rwy’n teimlo’n gyffrous am y bennod nesaf yn fy ngyrfa fel garddwriaethydd ac yn edrych ymlaen at ddatblygu’r sgiliau mae’r brentisiaeth wedi eu rhoi i fi.


Glen Pugh – Mis Mai 2021