10 Mai 2021

Blog Prentis – Ellie-May

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Helo, fy enw yw Ellie-May ac rwy’n brentis ail flwyddyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol  Cymru. 

Yn y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi cael y cyfle i ddysgu gan nifer o wahanol bobl a chael amrywiaeth eang o brofiadau mewn garddwriaeth. Rwyf wedi treulio amser gyda phob tîm ac wedi gallu cymryd rhan ym mhob un o’u trefniadau bob dydd, yn amrywio o ddyfrhau a thyfu yn Nhai Gwydr yr Ardd i dorri porfa a phlannu coed yn yr ystâd ehangach. Mae’r brentisiaeth hefyd wedi rhoi cyfle ifi gael wythnos ar leoliad yn amgueddfa Abergwili, gan roi cipolwg dda i fi ar ehangder y byd garddwriaeth. Gobeithio, os bydd COVID yn caniatáu, y caf dreulio fy wythnos arall ar leoliad  mewn siop flodau leol!

Mae bod yn brentis hefyd yn golygu ein bod yn cael ymweld â gerddi eraill i weithio neu ddim ond i ymweld. Ar ddiwedd y llynedd aethom i weld cynhyrchydd blychau llysiau yn lleol i weld sut mae garddwriaeth cynhyrchu yn gweithio, a thra oeddem yno cawsom roi help llaw. Ym mis Rhagfyr 2019 buom hefyd yn RHS Wisley. Taith oedd hon i’r tîm cyfan i weld sut mae gerddi eraill yn eu cyflwyno’u hunain yn y gaeaf, ac i ddangos y gwahaniaeth rhwng gerddi Botaneg a gerddi an-Fotaneg.

Gan fy mod yn dod i ddiwedd fy amser yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, rwyf wedi dechrau meddwl am fy amser. Mae gallu gweithio gyda chynifer o bobl fedrus a gwybodus wedi bod yn un o’r agweddau gorau ar y profiad cyfan. Rydw i hefyd wedi gwneud ffrindiau a fydd yn para’n hir, a byddaf yn ddiolchgar am byth am hynny.  Fy hoff gyfnod oedd gyda’r tîm Ystadau. Tra oeddwn gyda nhw cefais ddefnyddio’r holl beiriannau, plannu coed, codi ffensiau a thorri llawer iawn o borfa!

Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn yr Ardd am rannu eu gwybodaeth gyda fi a rhoi o’u hamser i’m harwain i fyd rhyfeddol garddwriaeth. Byddaf yn drist wrth adael, ond gobeithio ryw ddydd y gallaf ddod nôl a rhannu fy ngwybodaeth gyda phrentis y dyfodol.


Ellie-May Branford – Mis Mai 2021