15 Ebr 2021

Diweddariad ar yr Ardd Wenyn: Gwenynwr yn dal i aros

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Gwenynwr yn dal i aros….

Rydw i a’r gwenynwyr yn dal i aros i’r tywydd gynhesu digon i wneud ein harchwiliad cyntaf o’n cytrefi yn yr Ardd.  O’i gymharu â’r tywydd cynnes gawsom ni yr adeg hon y llynedd, mae’r tywydd y tro hwn yn dal yn oer!

Mae hi’n demtasiwn i fynd i mewn i’r cychod gan ein bod yn ysu am gael dechrau, ond bydd rhaid inni fod yn amyneddgar am nawr.

O’r hyn welwn ni wrth y mynedfeydd, mae’r cytrefi’n dod â phaill y coed helyg i mewn pan gân nhw gyfle i fynd i’w nôl.  Effeithiodd y rhew yn ddiweddar ar y blodau ryw ychydig, ond mae yna lawer iawn i ddod eto. Rydym wedi edrych ar ein cofnodion am y 6 blynedd diwethaf, ac mae dyddiad yr archwiliad hylendid yn amrywio o ganol Mawrth i ganol Ebrill, felly dydyn ni ddim y pryderu’n ormodol eto.

Mae hyn yn gyfle inni baratoi ar gyfer y gwaith sydd i ddod.

Rydym wedi archwilio’r holl grwybrau sydd gennym wedi’u storio, ac wedi’u didoli’n rhai i’w cadw a rhai i’w toddi a’u hailgylchu. Mae rhai o’r mannau budr oedd gennym wedi’u glanhau. Mae rhannau’r cychod wedi’u glanhau a’u deifio, felly maen nhw’n barod i’w defnyddio pan fyddwn yn llenwi’r bylchau y tymor hwn.

Mae gennym gyfarpar  yn ei le ac rydyn ni’n barod i ddechrau, pan fydd y tywydd yn iawn, ar yr archwiliadau hylendid,  a chynllunio ym mha gychod y byddwn yn Ysgwyd yr Haid, yn newid crwybrau Bailey neu ddim ond yn adnewyddu’r crwybrau sydd wedi torri.

Y tymor diwethaf ysgwydwyd yr heidiau mewn nifer o’n cytrefi, sef rhoi sail newydd i bob un o fframiau’r nythfeydd.  Mae’r dull hwn yn arafu’r cytrefi ryw ychydig wythnosau, gan fod yn nythaid newydd hefyd yn cael ei symud. Ond mae’n effeithiol i atal afiechyd ac fel triniaeth am varroa.  Ar ôl i’r gwenyn gael llond bol, maen nhw’n adfer yn gyflym iawn ac yn dueddol o ddod yn gryfach am weddill y tymor. Ond argymhellir hyn ar gyfer cytrefi cryf yn unig.

Gellir newid crwybrau cytrefi sydd ychydig yn wannach neu’n llai drwy’r dull Bailey. Mae hyn yn cymryd mwy o amser i’w wneud ac yn cadw’r nythaid wreiddiol, ond mae’n llai effeithiol i atal trosglwyddo afiechyd a varroa.  Fodd bynnag, mae’n cyflawni’r diben o osod crwybrau newydd yn lle’r hen rai gan achosi  llai o newid i’r gwenyn.

Byddwn yn defnyddio cyfuniad o’r dulliau hyn wrth asesu anghenion ein cytrefi wrth symud ymlaen.

Lynda

Hyfforddwraig Ecosystemau a Gwenynwraig