10 Maw 2021

Natur yn deffro

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae’r awyr las tywyll yn cael ei adlewyrchu ar wyneb pefriol y llynnoedd, lle mae hwyaid gwyllt fel petaent yn clochdar wrth i chi basio a gwyddau Canada yn arnofio’n dawel ar draws y dŵr. Mae barcutiaid coch a bwncathod yn esgyn yn dawel uwchben, wrth iddynt hela ysglyfaeth dros ddolydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, a gwelir eu hamlinelliad yn erbyn yr ychydig gymylau ysgafn sy’n drifftio’n araf ar hyd yr awyr.

Yn yr Ardd Ddeufur, mae gwenyn mêl yn suo heibio i’ch clust wrth iddynt anelu tuag at y grug pinc a gwyn sy’n blodeuo yn y gaeaf. Maent yn yfed neithdar yn wyllt ac yn pacio paill llwyd yn eu basgedi paill, cyn dychwelyd i’r cwch gwenyn â’r adnoddau gwerthfawr hyn, lle mae gwenyn gweithwyr eraill yn hedfan i ffwrdd yn gyflym i fynd i lanhau eu hunain ac i ddod o hyd i ffynonellau neithdar a phaill eraill sy’n blodeuo’n gynnar.

Uwch eu pennau y mae robin goch sy’n clwydo’n falch ar ben y wal, gan ledaenu ei chân swynol ar draws yr Ardd yn hyderus, gan gystadlu bron â’r gnocell werdd anamlwg sy’n ymddangos fel petai’n chwerthin ym mrig y coed. Isod, mae mwyalchen yn crwydro o gwmpas yn y gwelyau blodau, yn fflicio pridd i bob cyfeiriad wrth iddi chwilio’n ddwys am fwydod tra gerllaw, mae llygoden yn rhuthro ar frys ar hyd ymyl waelod y wal i’r porth, yn y gobaith o fynd heb i lygaid dynol sylw arni.

Mae’r lili wen fach gain a’r genhinen Bedr bersawrus yn siglo yn yr awel dyner, gan ffurfio môr o felyn-euraidd a gwyn-perlog y tu allan i’r Cwrt Stablau. Ar draws yr Ardd, mae’r saffrwm yn blodeuo mewn amrywiaeth o liwiau, megis porffor dwfn ac oren llachar, gan ychwanegu fflach o liw at y gwelyau blodau lle nad oes fawr ddim arall wedi ymddangos. Mae breninesau cacwn cynffon lwydfelyn sydd newydd ymddangos yn cropian ar eu traws ac yn plymio i mewn iddynt wysg eu pennau i yfed neithdar, gan ddod yn ôl i’r wyneb â’u hwynebau niwlog wedi’u gorchuddio â phaill melyn llachar. Maent yn ei lanhau oddi ar eu llygaid a’u teimlwyr â’u coesau blaen, ac yna’n hedfan yn drwsgl i’r set nesaf o flodau sy’n mynd â’u bryd, i gasglu mwy o adnoddau ar gyfer eu nythod newydd. Mae pryfed gormes cyffredin a thaprog yn eistedd ar ben y stigmâu, gyda’u homatidia yn edrych yn debyg i ddarnau bach o gliter yng ngolau’r haul. Maent yn cael eu haflonyddu’n aml gan wenynen fêl ddiwyd sydd hefyd wedi darganfod y gwobrau gwerthfawr y mae’r saffrwm yn eu cynnig. Yn frith ymysg y saffrwm yn y gwelyau blodau, y mae llysiau’r ysgyfaint yn dod i’r amlwg, fel tlysau saffir bach yn erbyn y pridd tywyll, gan ddenu gwenyn mêl a phryfed hofran fel ei gilydd.

Rydym wir yn gobeithio y bydd yr Ardd yn agored i’r cyhoedd yn fuan fel y gallwch fwynhau’r arddangosfa odidog o harddwch natur gyda ni!