2 Maw 2021

Diweddariad ar yr Ardd Wenyn: Gwenyn yn hedeg o gwmpas yn yr heulwen

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Roedd hi mor braf gweld y gwenyn yn hedeg o gwmpas yn yr heulwen yr wythnos diwethaf. Gobeithio bod hyn yn arwydd fod dyddiau da i ddod.

Cawsom ddiwrnod gweithdy o dasgau cadw pellter gydag aelodau o’r Tîm Gwenyn, i baratoi ar gyfer y tymor i ddod.

Roedd nifer o dasgau i fynd i’r afael â nhw, felly roedd rhaid i bawb i dorchi llewys, 2 fetr ar wahân, wrth gwrs.

Yn y brif Ardd Wenyn cafodd y man plannu a’r tir o gwmpas y cychod gwenyn eu twtio a’u tocio’n drwyadl. Mae’n well gennym gadw rheolaeth ar y gwaith yn y prif fan syllu, wrth inni edrych ymlaen at dderbyn ymwelwyr i weld y gwenyn pan fydd yr Ardd Fotaneg ar agor eto.

Ar hyd y llethr o gwmpas y wenynfa ddysgu yn y bloc gwyddoniaeth, mae dail y gaeaf wedi’u tocio a’u cludo ymaith i ganiatáu ar gyfer y tyfiant newydd, ac i’r coed helyg dewhau i fod yn gysgod i’r wenynfa rhag y gwynt.

Cafodd y mynedfeydd i’r cychod eu harchwilio a’u clirio er mwyn i’r gwenyn allu hedfan i mewn ac allan yn ddirwystr.

Cafodd y rhwystrau llygod eu symud. Maen nhw wedi gwneud eu gwaith erbyn hyn, a dydyn ni am rwystro mynediad os bydd gwenyn yn casglu paill cynnar. Gallai’r rhwystrau llygod olygu bod y basgedi paill yn colli eu cynnwys gwerthfawr wrth i’r gwenyn ddychwelyd i’r cychod pe na byddent yn cael eu tynnu i ffwrdd.

Cafodd y rhigolau ar y pentwr blychau mêl a oedd wedi eu glanhau gynt eu rhoi’n ôl. Mae’r rhigolau’n caniatau i fframiau o fewn y blychau symud yn llyfn wrth symud pethau o gwmpas.

Cafodd cyfarpar newydd eu tynnu o’u blychau a’u trefnu a’u gosod yn barod i’w defnyddio yn storfa’r gwenyn.

Mae’r fframiau wedi eu glanhau a’u storio.

Mae blychau’r cychod wedi eu trin ar y tu allan ag olew Danaidd i ddiogelu’r pren ryw ychydig rhag y tywydd gwaethaf.

Roedd hi mor braf cael eistedd y tu allan amser cinio yn yr heulwen a gweld y gwenyn yn hedeg o gwmpas. Y ffordd orau erioed i gael gwared â thyndra!

Lynda

Hyfforddwraig Ecosystemau a Gwenynwraig