16 Maw 2021

Canllaw i Flodau Gwyllt mis Mawrth

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae Mis Mawrth yn golygu un peth – mae’r gwanwyn wedi cyrraedd yn swyddogol!

Ar ôl misoedd tywyll y gaeaf, mae’r dyddiau yn hirach, ac mae’r tymereddau yn dechrau codi. Mae dyfodiad y gwanwyn yn cael ei hebrwng gan ddychweliad cân yr adar a blodau gwyllt cyntaf y flwyddyn.

Mae’r eirlysiau yn gorffen eu tymor blodeuo ac mae llawer o lygaid Ebrill yn ymuno â nhw, sydd yn ôl pob golwg yn ymddangos dros nos. Mae’r llygaid y dydd cyntaf i’w gweld ar ein lawntiau ac mae hynny yn arwydd y bydd ein gerddi yn llawn bywyd cyn bo hir.

Mewn coetiroedd hynafol, mae cennin Pedr brodorol a blodau’r gwynt yn manteisio ar y coed di-ddail i dorheulo yn yr haul sy’n magu nerth.

Mae clystyrau o friallu yn addurno’r cloddiau, sy’n briffyrdd i famaliaid bychain, sy’n brysur ar ôl iddyn nhw ddeffro o’u cwsg yn ystod y gaeaf.

Rydym wedi llunio’r canllawiau hwylus hyn ynglŷn â rhai o’r blodau gwyllt mwyaf cyffredin a phrydferth y gallwch chi eu gweld ym mis Mawrth, a gallwch chi lawrlwytho’r canllawiau isod.

Gobeithio y bydd hyn yn darparu man cychwyn i chi lle gallwch chi fynd ymlaen i adnabod hyd yn oed fwy o rywogaethau.

Gall yr amrywiaeth o rywogaethau planhigion fod yn hynod anodd ar y dechrau, ond unwaith yr ydych chi’n dechrau, byddwch chi’n gallu gweld cymaint mwy o’ch cwmpas a byddwch chi’n adnabod y planhigion hyn lle bynnag yr ydych chi’n mynd.

Dim ond cychwyn y flwyddyn fotanegol yw mis Mawrth; rydym wedi cyhoeddi mwy o ganllawiau ar gyfer bob mis er mwyn cryfhau eich sgiliau adnabod.

Mae croeso i chi dagio @CaruNaturCymru neu @WatersElliot ar luniau o flodau gwyllt yr ydych chi wedi’u gweld, neu os ydych chi angen help gydag adnabod!

Llawrlwythwch: Canllawiau Blodau Gwyllt mis Mawrth.