16 Chwef 2021

Planhigion Unflwydd yn y Tŷ Gwydr Mawr

Alex Summers

Efallai bod hyn yn ymddangos yn adeg anarferol o’r flwyddyn i blannu planhigion unflwydd, ond mae’r planhigion hyn yn sefydlu eu gwreiddiau yn ystod y misoedd oerach yn y Tŷ Gwydr Mawr. 

Mae gennym bedwar prentis yn gweithio yma yn yr ardd: tri yn eu hail flwyddyn ac un yn ei flwyddyn gyntaf. Roedd plannu plygiau unflwydd yn ddiwrnod hyfforddi iddynt ddysgu sgiliau newydd; mae pob prentis yn cylchdroi rhwng Lleoliad yr Ardd Furiog, Lleoliad y Rhodfa, Lleoliad yr Ystad, Lleoliad y Feithrinfa a Lleoliad y Tŷ Gwydr Mawr. 

Mae ein tîm lluosogi wedi tyfu planhigion plwg sy’n barod i’w sefydlu gydag ychydig o gompost a lom yng ngwelyau blodau’r tŷ gwydr. Heuwyd yr hadau yn yr hydref, a’u pigo allan i hambyrddau plygiau pan ymddangosodd y gwir ddail. Nid yw plannu yn y Tŷ Gwydr Mawr mor syml ag y mae’n ymddangos gan fod angen rhidyllu’r compost cyn plannu er mwyn gwaredu’r cerrig sydd wedi cronni yn y pridd. Mae rhai ardaloedd o’r pridd yn gywasgedig iawn ar ôl blynyddoedd o ddyfrhau, felly mae angen eu palu’n rheolaidd gan fod nifer o blanhigion o Awstralia yn hoffi bod mewn pridd sy’n draenio’n dda. 

Ar hyn o bryd, gall y tymheredd yn y tŷ gwydr amrywio o 5°C ar ei isaf i hyd at 15°C gan amlaf. 

Plannwyd y plygiau ledled ardal Gorllewin Awstralia y tŷ gwydr, o’r fynedfa, ar hyd y llwybr canolog ac i fyny at y pwynt uchaf yn y tŷ gwydr. 

Dau o’r planhigion o Awstralia a ddewiswyd yw: Schoenia filifolia ssp. subulifolia a Brachyscome iberidifolia.

Mae gan Schoenia filifolia ssp. subulifolia flodau melyn llachar tebyg i lygaid y dydd sydd, mewn gwirionedd, yn fractau (dail wedi’u haddasu) ac sy’n teimlo fel papur. Maent yn hoff o safle heulog, mewn priddoedd sy’n draenio’n dda. 

Yn wahanol i Schoenia, mae Brachyscome iberidifolia yn amrywio o ran lliw o las a phorffor i wyn. Mae’r rhain hefyd yn dod o Orllewin Awstralia, ac yn meddu ar flodau trwm tebyg i lygaid y dydd. Yn Awstralia, eu gwald brodorol, gallant ddenu peillwyr diddorol, gan gynnwys gloÿnnod byw ac adar y si. 

Bydd yn chwech i wyth wythnos cyn iddynt flodeuo a bod gennym ychydig bach o fflora Awstralia yng Nghymru. 

Katie Benallick – Mis Chwefror 2021