28 Ion 2021

Gwlyb Gwlyb Gwlyb

Martin Davies

Rwyf newydd ddod yn ôl i fyny i’r swyddfa yn wlyb diferol ar ôl archwilio’r gwenynfeydd. Weithiau mae’n rhaid i chi fynd allan er gwaetha’r tywydd!

Mae’r holl dywydd gwlyb yma’n bryder, gan nad yr oerfel sy’n lladd gwenyn, ond y lleithder a’r llwydni, felly rydym yn archwilio’r cychod gwenyn yn rheolaidd i sicrhau ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein gwenyn.

Roedd toeau’r cychod gwenyn yn llawn dŵr, felly cawsant eu newid am rai sych. Nid yw toeau sy’n gollwng yn helpu, ac mae’r glaw trwm hwn yn fy atgoffa i ystyried adeiladu toeau dyfnach ar gyfer y gaeaf nesaf.

Pan gawsant eu harchwilio yr wythnos diwethaf, roedd y gwenyn wedi dechrau bwyta’r ffondant ychwanegol a roddwyd iddynt yn flaenorol i sicrhau bod ganddynt ddigon o storfeydd i oroesi’r gaeaf. Roedd nifer ohonynt eisoes wedi bwyta hanner y pati cilo, felly roeddwn am wirio a oedd arnynt angen rhagor heddiw.

Weithiau, er gwaetha’r tywydd, mae’n rhaid i ni darfu ychydig ar y gwenyn er eu lles eu hunain. Rhoddwyd pati arall o ffondant i’r rhan fwyaf o’r cychod gwenyn gan ein bod ar gyrraedd y cyfnod tyngedfennol ar gyfer goroesiad y gwenyn.

Mae pob cwch gwenyn wedi cael ei drin ag asid ocsalig i ddifa’r gwiddon Varroa. Mae hyn hefyd yn helpu gwenyn y gaeaf i oroesi, sydd wedi bod yn gwneud eu gwaith o gadw’r cwch gwenyn yn gynnes a gofalu am y Frenhines tan y gwanwyn.

Wrth i’r dyddiau ddechrau goleuo, bydd y frenhines yn paratoi i ddodwy mag newydd i gymryd lle gwenyn y gaeaf, sydd wedi goroesi am gynifer o fisoedd.

Yn ystod yr haf, gall gwenynen fêl fyw am hyd at chwe wythnos gan ei bod yn gweithio mor galed nes iddi farw ar ôl cyfnod eithaf byr. Nid yw’r gwenyn yn hedfan i borthi yn ystod misoedd y gaeaf; maent yn gymharol lonydd yn y cwch gwenyn ac nid ydynt yn eu blino eu hunain, felly gallant fyw am hyd at chwe mis.

Cyn bo hir, bydd gwenyn y gaeaf yn dechrau cael eu disodli, ac mae’n cymryd llawer o egni i fagu mag.

Mae angen storfa o baill a mêl yn y cwch gwenyn er mwyn gwneud y bwyd mag i fwydo’r larfâu; felly, mae’n hanfodol bod gan y gwenyn ddigon o fwyd. Mae yna dipyn o amser o hyd nes y bydd yna borthiant gwanwyn ar gael i’r gwenyn, felly dyma lle gallwn ni helpu.

Er ein bod yn gadael llofft llawn mêl ar bob un o’n cychod gwenyn, yn ystod gaeafau gwlyb, cynnes a llaith rydym yn dal i weld bod y gwenyn yn gallu disbyddu eu storfeydd yn gyflym, felly gall ychydig o ymyrraeth gennym ni wneud byd o wahaniaeth i’n nythfeydd, gan eu helpu i oroesi tan y gwanwyn.

Hyd yn hyn, mae pob un yn fyw ac yn iach – gadewch i ni obeithio y bydd hynny’n parhau.

Lynda Christie
20 Ionawr, 2021