14 Ion 2021

Gwenyn mêl yn adrodd hanes tirwedd y Deyrnas Gyfunol wrth iddi newid dros y 65 mlynedd diwethaf

Laura Jones

Gwenyn Mêl yn Haneswyr

Mae’r 65 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid anferthol yn nhirwedd y Deyrnas Gyfunol. Oherwydd amaethu dwys ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gwelwyd dirywiad mewn tir porfa a dolydd parhaol a oedd yn gyforiog o rywogaethau, a chafodd cloddiau a choedlannau eu dinistrio fel y gallai caeau fod yn fwy o faint ac i dyfu cnydau newydd. Mae dosbarthiad a niferoedd blodau gwylltion y DG wedi newid: mae rhai rhywogaethau wedi lleihau a rhai planhigion newydd wedi eu cyflwyno. Mae haneswyr natur, gwyddonwyr ac asiantau’r llywodraeth wedi cadw cofnodion manwl dros y cyfnod hwn, ond nid nhw yw’r unig dystion i’r byd hwn sy’n newid.

Mae gwenyn mêl hefyd yn teithio drwy’r tirweddau hyn, yn hedfan drwy gaeau a choedlannau, dros gloddiau a thiroedd cnydau, yn chwilio am neithdar a phaill i’w cario’n ôl i’w cychod. Defnyddir paill sy’n llawn protin i fwydo larfa wrth ddatblygu, tra mae neithdar yn cael ei drosglwyddo o un wenynen i’r llall, yn cael ei ddwysau a’i buro i wneud mêl, sef storfa ynni gwenyn mêl.

Gall gronynnau paill sy’n cael eu dal o fewn y mêl roi cofnod o’r planhigion mae’r gwenyn wedi bwydo arnyn nhw. Mae’r paill yn wahanol o ran ffurf a maint, o beli mawr, pigog o ddant y llew i ronynnau bach, llyfn o wahanol fathau o borfa.

Gellir defnyddio microsgopeg i nodi paill yn ei ffurf, a gall DNA o fewn y gronynnau paill roi gwybodaeth am y planhigion mae’r paill wedi dod ohono. Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rydym wedi bod yn nodi’r paill mewn mêl i weld pa blanhigion sy’n bwysig i ddeiet gwenyn mêl. Rydym wedi cymharu canlyniadau o 2017 ag astudiaeth a wnaed ym 1952 i ddangos sut mae gwenyn mêl wedi ymateb i’r newid yn nhirwedd blodau’r DG, ac mae canlyniadau’r gwaith ymchwil hwnnw’n cael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Communications Biology.

Nodi’r planhigion a ddefnyddir gan wenyn mêl

Ers llawer blwyddyn mae pobl sy’n cadw gwenyn a gwyddonwyr wedi edrych ar sleidiau microsgop o fêl i ddangos yr amrywiaeth o blanhigion mae gwenyn mêl yn ymweld â nhw. Ym 1952 cynhaliwyd arolwg cenedlaethol o blanhigion gan A.S.C. Deans. Anfonodd gwenynwyr o bob rhan o’r DG 855 o samplau o fêl o’u cychod, ac archwiliwyd pob un dan y microsgop gan nodi’n fanwl y gronynnau paill ynddyn nhw.

Yn 2017, ailadroddwyd arolwg A.S.C. Dean gan Dr Laura Jones fel rhan o’i gwaith ymchwil PhD gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Bangor. Gofynnodd i wenynwyr o bob rhan o’r DG anfon ychydig o’u mêl ato a dadansoddodd 441 o samplau. Y tro hwn, yn lle defnyddio microsgopeg, nodwyd y paill drwy ddefnyddio techneg a enwir yn farcodio DNA. Caiff DNA ei dynnu o’r paill, a chaiff darnau DNA byr eu chwyddo a’u cymharu â llyfrgell gyfeirio DNA y DG, adnodd sydd wedi ei ddatblygu mewn prosiect sy’n cael ei arwain gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Meillion gwyn yn lleihau yn y dirwedd

Ym 1952 y planhigion pwysicaf i wenyn mêl oedd meillion gwyn (Trifolium repens). Mae’r canlyniadau hyn yn synhwyrol oherwydd cydnabyddir yn eang fod meillion gwyn yn blanhigyn mêl  pwysig. Ym 1936, ysgrifennodd R.O.B. Manley am feillion gwyn yn ei lyfr Honey Production in the British Isles.

“Of the major honey plants the most important are found among the Leguminosae, and the outstanding clover, in fact the world’s most important honey plant is the common white clover. This plant is very familiar to all. It is to be seen in every meadow and beside almost every road and path, where it thrives upon the gritty soil”.

Ym 1945 disgrifiodd F.N. Howes y prif blanhigion mêl yn y DG yn Plants and Beekeeping. Meddai:

“The clovers are the most important honey producing plants in Britain and are considered to account for about 75% of the yearly honey crop. White clover (T. repens) is by far the main producer among the different kinds of clover that are cultivated or occur in pastures.”

Yn 2017 meillion gwyn oedd yr ail blanhigyn pwysicaf o hyd, ond roedd llawer yn llai ohonynt yn bresennol yn y mêl. Ym 1952 gwelwyd bod eu paill yn bresennol mewn 93% o samplau o fêl a’u bod yn un o’r prif blanhigion mêl mewn 74% o’r rheiny. Ond erbyn 2017 roedd eu paill i’w weld mewn 62% o samplau ac yn brif ffynhonnell mewn dim ond 31%. Mae hyn yn debygol o fod yn adlewyrchu lleihad mewn meillion gwyn yn y dirwedd. Nid oedd cofnodion manwl gywir i’w cael ar gyfer 1952, ond mae Arolwg Cefn Gwlad y DG yn dangos rhwng 1978 a 2007 fod meillion gwyn wedi lleihau 13% yn y dirwedd.

Arferai meillion gwyn fod yn blanhigyn amlwg mewn tiroedd porfa barhaol, a byddent yn aml yn cael eu cynnwys mewn gwyndonnydd porfa fel ffynhonnell brotin i dda byw.  Oherwydd amaethu dwys bu lleihad yn nifer y dolydd parhaol, a golygodd defnyddio mwy o wrtaith nitrogen annaroganadwy fod meillion yn llai tebygol o gael eu hau mewn gwyndonnydd porfa. Roedd ail-hadu heb feillion yn ei gwneud yn haws rheoli dail tafol ac ysgall â chwynladdwr sbectrwm-eang a oedd yn lladd yr holl blanhigion nad oedden nhw’n borfa.  Er bod meillion gwyn yn dal i gael eu cynnwys mewn gwyndonnydd, roedd torri lawer yn fwy rheolaidd ar gyfer silwair yn golygu eu bod yn llai tebygol o gael eu gadael i flodeuo.

Gyda lleihad mewn ffynhonnell mor bwysig o neithdar, roedd angen i wenyn mêl chwilio am gyflenwadau gwahanol o neithdar a phaill. Mae ein canlyniadau’n dangos bod gwenyn mêl wedi bod yn bwydo ar fwy o lwyni mwyar duon Rubus fruticosus. Mae llwyni mwyar duon a meillion gwyn yn blodeuo ar adegau tebyg, a chynyddodd llwyni mwyar duon yn sylweddol fel planhigion o bwys i wenyn mêl rhwng 1952 a 2017. Ym 1952 gwelwyd bod Rubus yn bresennol mewn 58% o samplau o fêl, ond fel ffynhonnell o bwys mewn dim ond 5% o’r rhain. Disgrifiodd Manley ym 1936 a Hoes ym 1945 fod y llwyn mwyar duon yn blanhigyn ‘defnyddiol’ i wenyn, ond meddai Manley am fêl llwyni mwyar duon “is never seen pure in this country” a dywedodd Howes “pure blackberry honey is probably rarely obtained in Britain”. Yn 2017, roedd paill llwyni mwyar duon i’w weld mewn 73% o samplau o fêl ac yn blanhigyn mêl o bwys mewn 36% o’r rheiny.

Rêp had olew: cnwd newydd

Tyfwyd rêp had olew (Brassica napus) gyntaf ar ddiwedd y 1960au a thyfwyd 4,884 hectar ym 1969. Erbyn 1988 roedd 279,030 hectar yn cael eu cynhyrchu a chynyddodd hynny i 332,000 hectar yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae’r caeau melyn llachar yn olygfa gyffredin yn y gwanwyn, yn enwedig yn nwyrain y DG.

Ym 1952 roedd y rhywogaeth Brassica y mae rêp had olew yn perthyn iddi yn blanhigyn o bwys mewn dim ond 2%  a samplau o fêl, ond erbyn 2017 roedd hyn wedi cynyddu i 21%. Gwelwyd bod llawer iawn mwy o baill Brassica yn bresennol yn y mêl o gychod wedi’u lleoli o fewn 2km i gnydau rêp had olew.

Mae gwenyn mêl yn gwneud defnydd llawn o neithdar a phaill o flodau rêp had olew, ac mae mêl o flodau rêp had olew yn unig ar gael yn helaeth erbyn hyn. Mae’n cynnwys lefel uchel o glwcos, sy’n golygu ei fod yn gronynnu’n gyflym iawn i roi mêl gwyn gyda blas cynnil. Gall y gronynnu cyflym achosi problemau i’r gwenynwr, oherwydd os na chaiff ei dynnu’n gyflym o’r crwybrau, gall fynd yn galed iawn a gall fod yn amhosibl cael y mêl allan.

Fodd bynnag, dydy hanes y ffynhonnell newydd hon ddim yn fêl i gyd, gan fod hadau rêp had olew yn aml yn cael eu trin  â phryfleiddiaid neonicotinoid sy’n niweidiol i wenyn mêl. Mae’r pryfleiddiaid neonig hyn wedi eu gwahardd yn y DG ar hyn o bryd, a gobeithio y bydd y gwaharddiad yn parhau ar ôl inni adael yr UE.

Dyfodiad planhigyn ymledol: Jac y Neidiwr

Mae gwenyn mêl wrth chwilio am neithdar a phaill hefyd wedi dilyn dyfodiad un rhywogaeth ymledol. Daethpwyd â’r Ffromllys Chwarennog neu Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) i’r DG gyntaf ym 1839. Roedd ei daldra cyflym (hyd at 3m), ei flodau fel tegeirian gwyn, pinc a phorffor a’i godennau sy’n ffrwydro wrth i’r hadau aeddfedu yn apelio at arddwyr cyfnod Victoria. Yn fuan iawn roedd Jac y Neidiwr wedi neidio dros gloddiau’r gerddi gan ymledu’n araf ar y cychwyn yna’n gyflymach o’r 1940au tan y 1960au. Ac yn raddol ymsefydlodd ar hyd dyfrffyrdd ac ymylon caeau.

Yn 1945 nododd Howes y planhigyn newydd hwn fel hyn “An interesting Himalayan balsam which is often cultivated and is now naturalised in some parts of the country, appears to be a good bee plant”. Yn 1952 roedd yn bresennol mewn mêl yn y DG ar lefel isel ac i’w weld mewn 3% o samplau, ond yn 1% yn unig fel planhigyn o bwys.

Parhaodd i ledu’n gyflym dros y degawdau dilynol, ac erbyn hyn mae Jac y Neidiwr yn frith ar hyd afonydd ac ymylon ffyrdd. Yn 2017 roedd i’w weld mewn 15% o samplau ac yn ffynhonnell o bwys mewn 6%. Fodd bynnag, nid yw hyn yn amcangyfrif llawn o’i bwysigrwydd, gan fod y mwyafrif o’r samplau mêl wedi eu darparu yn misoedd Gorffennaf ac Awst, tra mae Jac y Neidiwr yn dueddol o gael ei ddefnyddio gan wenyn mêl yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Erbyn hyn mae Jac y Neidiwr yn blanhigyn pwysig i wenyn mêl yn hwyr yn y tymor, ac yn ffynhonnell hael o neithdar ar adeg o’r flwyddyn pan nad oes fawr ddim arall ar gael. Mae’n helpu’r gwenyn i adeiladu eu stôr dros y gaeaf, ac weithiau caiff ei werthu gan wenynwyr fel mêl melyn golau o un planhigyn yn unig, gyda’i flas melys, persawrus, blodeuog. Mae’n hawdd dweud pan fydd gwenyn mêl yn bwydo ar Jac y Neidiwr gan eu bod yn dychwelyd i’w cwch a’u cyrff yn wyn drostynt gan baill, a dyna pam maent yn cael eu galw weithiau’n ‘wenyn ysbryd’.

Mae Jac y Neidiwr yn sicr yn  blanhigyn da i wenyn mêl, ond mae hyn yn fater dadleuol gan ei fod yn rhywogaeth ymledol iawn sydd wedi’i rhestru dan Atodiad 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n golygu ei bod yn drosedd plannu’r rhywogaeth yn y gwyllt neu beri iddi gael ei phlannu. Mae’r ffaith fod Jac y Neidiwr yn tyfu mor gryf yn golygu ei fod y cystadlu â phlanhigion brodorol am olau, maeth a lle. Mae’n gwywo yn y gaeaf gan adael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydu, tra mae ei goesau a’i ddail marw yn gallu rhwystro dyfrffyrdd.  Gall hyd yn oed ei boblogrwydd gan beillwyr achosi problemau drwy drechu blodau gwyllt brodorol am eu gwasanaethau ac arwain at gynhyrchu llai o hadau mewn planhigion brodorol.

Sut gallwn ni wella bywyd gwenyn mêl a pheillwyr gwyllt?

Mae ar wenyn mêl a pheillwyr gwyllt angen ffynonellau digonol ac amrywiol o neithdar a phaill yn y dirwedd, i ddarparu digon o fwyd o safon uchel. Drwy ddeall pa blanhigion yw’r ffynonellau pwysicaf rydym yn gallu darparu argymhellion am ba blanhigion i’w tyfu er mwyn i wenyn mêl a pheillwyr gwyllt allu ffynnu. Y planhigion nesaf o ran pwysigrwydd oedd llwyni a choed sy’n blodeuo yn y gwanwyn, gan gynnwys y ddraenen wen (Cratageus monogyna), afal (Malus species), y rhywogaeth cotoneaster, sycamor a masarn (y rhywogaeth Acer) a cheirios ac eirin (y rhywogaeth Prunus). Tua diwedd y tymor roedd grug (Calluna vulgaris) yn blanhigyn o bwys i roi mêl, ynghyd â Jac y Neidiwr ymledol.

Mae angen newid lefelau tirweddu i ddarparu mwy o adnoddau blodeuo. Mae ar y DG angen mwy o  gloddiau yn llawn blodau gyda llwyni mwyar duon ar hyd yr ymylon a thir porfa yn llawn blodau gwylltion. Mae gwarchod dolydd sy’n llawn rhywogaethau yn flaenoriaeth, ond mae arwynebedd y cynefinoedd hyn yn fychan iawn. I gael mwy o neithdar a phaill mae angen newidiadau yn y cynefin mwyaf amlwg yn y DG heddiw, sef ‘tiroedd porfa wedi’u gwella’. Mae’r disgrifiad ‘wedi’u gwella’ braidd yn gamarweiniol oherwydd mae’n golygu bod y tir porfa yn gyffredinol wedi ei aredig a’i ail-hadu, ei drin â gwrteithiau anorganaidd a chwynladdwyr. Caiff blodau gwylltion eu gwthio allan i greu tiroedd porfa sy’n cynnwys yn bennaf nifer fach o rywogaethau porfa lle nad oes fawr o flodau i gynnal peillwyr. Ond oherwydd graddfa’r cynefin hwn, gallai mân newidiadau yma gynyddu’r ffynhonnell neithdar yn fawr iawn. Ar gyfer gwenyn mêl, darparu mwy o feillion gwyn mewn tiroedd porfa wedi’u gwella fyddai orau, ac i beillwyr eraill mae blodau gwahanol yn bwysicach.

Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae ein gwaith ymchwil yn parhau. Ynghyd â’n gwaith ymchwil ar wenyn mêl rydym yn archwilio’r planhigion a ddefnyddir gan  bryfed hofran, cacwn a gwenyn unigol. Mae ein gwaith ymchwil yn tyfu’n raddol i ddarparu ffynhonnell wybodaeth am flodau ar sail tystiolaeth i’n helpu i gynllunio dyfodol gwell i’n holl bryfed peillio.

Cyfeiriadau

Laura Jones, Georgina L. Brennan, Abigail Lowe, Simon Creer, Col R. Ford a Natasha de Vere (2021). Shifts in honeybee foraging reveal historical changes in floral resources, Communications Biology.

F.N. Howes (1945) Plants and Beekeeping. Faber and Faber, Llundain, y DG.

R.O.B. Manley (1936) Honey Production in the British Isles. Faber and Faber, Llundain, y DG.