7 Ion 2021

Fy nhri mis cyntaf yn yr Ardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Rwyf eisoes wedi ysgrifennu cwpl o bostiadau blog, ond roeddwn yn meddwl y dylwn fy nghyflwyno fy hun! Katie ydw i, ac rwy’n fyfyriwr ar leoliad yn y Ganolfan Wyddoniaeth. Rwyf yma am ddeng mis, a hynny’n rhan o fy ngradd Bioleg ym Mhrifysgol Nghaerefrog. Tra byddaf yma, byddaf yn ymwneud yn bennaf â’r prosiect Arbed Peillwyr, ac rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan ohono gan fy mod yn teimlo’n angerddol iawn dros beillwyr a chadwraeth peillwyr.

Rwyf wedi bod yma dri mis bellach eisoes wedi bod yn rhan o gymaint, felly byddaf yn dewis ychydig o’r prif dasgau yr wyf wedi bod yn eu cyflawni.

Fy nhasg gyntaf oedd ysgrifennu blogiau am beillwyr ar gyfer gwefan yr Ardd. Roedd hyn yn gyffrous iawn gan fy mod wrth fy modd yn ysgrifennu am natur a chael cyfle i ledaenu’r gair am bwysigrwydd peillwyr, a’r modd y gall pobl helpu i’w gwarchod. Roedd hyn oll hefyd yn golygu y gallwn fynd allan i’r Ardd a thynnu lluniau i’w cynnwys yn fy mlogiau. Rhoddodd gyfle rhagorol i mi ymarfer fy sgiliau ffotograffiaeth a gweld yr hyn yr oeddwn yn ysgrifennu amdano ar waith. Er enghraifft, pan ysgrifennais fy mlog am iorwg blodeuol, treuliais lawer o amser nid yn unig yn tynnu lluniau o’r peillwyr yn ei ddefnyddio, ond hefyd yn gwylio faint o rywogaethau gwahanol o beillwyr oedd yn ymweld â’r iorwg. Yn ogystal â hyn, roeddwn yn gallu ymarfer adnabod peillwyr.

Un cyfle arbennig iawn yr wyf wedi’i gael yma yw helpu i gasglu a glanhau hadau ar gyfer Banc Hadau Cenedlaethol Cymru. Cesglais hadau pys y ceirw o’r ddôl fach y tu allan i’r Ganolfan Wyddoniaeth, a hynny ochr yn ochr â’r myfyrwyr eraill ar leoliad ac Elliot Waters, Cynorthwyydd Cadwraeth Caru Natur Cymru. Bûm hefyd yn glanhau hadau meillion coch yn y labordy gyda’r allsugnydd, sy’n glanhau’r hadau trwy gael gwared ar unrhyw falurion sydd â phwysau gwahanol i’r hadau.

Rwyf wedi bod wrth fy modd yn cyflawni’r ddwy dasg hyn, ond yr hoff waith yr wyf wedi bod yn rhan ohono yw cadw gwenyn gyda gwenynwr yr Ardd, Lynda Christie. Rwy’n gwirioni ar wenyn, felly mae hwn wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i mi. Gan nad wyf yn wenynwr (er fy mod yn gobeithio y byddaf yn un yn fuan), mae’r gwaith wedi golygu fy mod naill ai’n cysgodi Lynda a’r gwirfoddolwyr, neu’n gwneud tasgau bach megis rhoi byrddau gwiddon Varroa yng ngwaelod y cychod gwenyn. Rwyf eisoes wedi dysgu cymaint am gadw gwenyn gan Lynda ac o’r ychydig ymweliadau â’r gwenynfeydd gwahanol yn yr Ardd. Rwyf hefyd wedi cyfrannu at wneud canhwyllau cwyr gwenyn a sebon yn y labordy, sydd wedi bod yn sgìl diddorol iawn i’w ddysgu. Mae’n foddhaol iawn gweld y cynnyrch terfynol cyn iddo fynd i’r siop.

Yn ogystal â’r gwaith, rwyf wedi mwynhau archwilio’r Ardd yn ystod fy egwyl ginio ac ar benwythnosau. Doeddwn i ddim yn adnabod yr Ardd yn dda iawn pan gyrhaeddais yma, felly rwyf wedi bod yn ceisio dod i’w hadnabod ac ymweld â phob rhan ohoni. Fy hoff ran yw Gardd Wallace, a hynny am ei bod, pan gyrhaeddais, yn llawn lliwiau hardd o hyd ac ynddi blanhigion sy’n denu peillwyr. Rwy’n ffodus iawn yn ogystal fy mod yn cerdded ar draws Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las i ‘gymudo’ i’r gwaith. Rwy’n gweld rhywbeth bob bore a nos, boed yn geirw, bwncathod neu farcutiaid coch. Mae i’r warchodfa hefyd olygfeydd godidog o godiad yr haul a’r machlud. Rwy’n dal i fethu credu mai’r lle hwn yw fy swyddfa!

Rwy’n ysu i weld beth y byddaf yn ei wneud yn y saith mis sy’n weddill gennyf yn yr Ardd!